Partneriaeth Ysgolion yn hybu buddion dysgu yn yr awyr agored

Cyhoeddwyd : 16/02/2021

Mae dysgu yn yr awyr agored ar draws y sir wedi cael hwb yn ystod y 12 mis diwethaf o ganlyniad i gyllid ychwanegol a sicrhawyd gan brosiect Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS), sydd wedi talu cost Cydgysylltydd i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion.

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Leol Cod Post y Bobl ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Cydgysylltydd PODS wedi gallu helpu i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ar dir yr ysgol ac mewn mannau awyr agored lleol.

Rhan arall o rôl y Cydlynydd yw dod â sefydliadau lleol a chenedlaethol ynghyd, gan gynnwys tîm Darganfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, athrawon a phenaethiaid. Gan gyfuno eu gwybodaeth a’u harbenigedd amrywiol, nod y bartneriaeth yw rhannu arferion da a hybu buddion cynnal gwersi yn yr awyr agored.

 

Outdoor classroom

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro:

“Yr haf diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored wrth ddychwelyd i ysgolion ar ôl y cyfnod clo. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi hyn drwy roi mwy o gyfleoedd i blant ac athrawon fynd â’u dysgu y tu allan.

“Ry’n ni eisoes wedi ymgysylltu â nifer o ysgolion ar draws Sir Benfro ac wedi cynhyrchu gweminarau byw. Mae adnoddau ategol ar gyfer y rhain ar gael ar HWB. Mae hyn wedi’i gwneud hi’n bosib cyrraedd hyd yn oed rhagor o ysgolion gyda gwybodaeth ymarferol, ysbrydoliaeth a chyngor ar ddarparu rhaglenni dysgu yn yr awyr agored.

“Mae llawer o ysgolion wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu tir yr ysgol i gefnogi dysgu yn yr awyr agored ac, yn fwy diweddar, mae Ysgol Gymunedol Neyland wedi cyflwyno gwersi yn yr awyr agored bob dydd Gwener.”

Yn ystod y cyfnod clo diweddaraf, mae’r gwaith wedi parhau ar-lein ac mae gwefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro wedi’i datblygu i ddarparu rhai adnoddau dysgu i athrawon. Mae syniadau dysgu yn yr awyr agored ac ysbrydoliaeth i athrawon a rhieni hefyd yn cael eu rhannu ar dudalen Facebook PODS (Pembrokeshire Outdoor Schools) ac ar @PembsOutdoorSch ar Trydar.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro e-bostiwch Bryony Rees, ffoniwch 07870 488014 neu ewch i wefan PODS.