Paneli newydd sbon yn cael eu harddangos ym Mhen-caer

Posted On : 15/12/2023

Mae cyfres o baneli dehongli newydd trawiadol wedi cael eu gosod ym Mhen-caer yn ddiweddar yn dilyn cydweithrediad rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth y Môr Cymru, elusen cadwraeth forol o Wdig.

Mae Pen-caer yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda golygfeydd godidog o’r goleudy, carpedi o ludlys arfor, clustog Fair a grug, a bywyd gwyllt syfrdanol.

Mae hen adeilad cadw gwyliadwriaeth o’r Ail Ryfel Byd yn sefyll ar y clogwyn, lle gall ymwelwyr fwynhau set o baneli dehongli newydd sy’n darparu gwybodaeth am dirwedd a bywyd gwyllt yr ardal. Ariennir y paneli gan Gronfa Pethau Pwysig Croeso Cymru.

Dywedodd Rhowan Alleyne, Swyddog Dehongli Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Pan ddechreuon ni greu’r arddangosfeydd hyn, roedden ni wir eisiau helpu ymwelwyr i ddod o hyd i fywyd hudolus y môr yn Pen-caer ac iddyn nhw gallu adnabod yr hyn maen nhw’n eu gweld. Pwy well i weithio gyda nhw nag Ymddiriedolaeth y Môr Cymru, sydd allan yn monitro’r bywyd gwyllt yma bron bob dydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i Holly Dunn a’i thîm o wirfoddolwyr am rannu eu gwybodaeth amhrisiadwy.”

Mae Pen-caer yn lleoliad sy’n cael ei ddefnyddio gan Ymddiriedolaeth y Môr yng Nghymru ar gyfer eu prosiect Photo-ID llamhidyddion, sy’n flaenllaw yn fyd-eang, lle mae gwirfoddolwyr yn treulio sawl diwrnod yr wythnos yn arolygu ac yn recordio gweld aelodau o deulu’r morfil.

Mae dros 200 o lamhidyddion wedi’u nodi hyd yma, ac mae’r gronfa ddata ffotograffig a luniwyd gan Ymddiriedolaeth y Môr Cymru yn helpu gwyddonwyr morol i ddeall pa mor bell mae llamhidyddion yn teithio, a ble maen nhw’n bwydo ac yn magu.

“Yr hyn sy’n gwneud Pen-caer mor arbennig ar gyfer bywyd môr yw ras y llanw,” meddai Rheolwr Ymddiriedolaeth y Môr, Holly Dunn, “mae’r cerrynt cryf yn corddi’r maetholion sy’n bwydo plancton. Mae pysgod bach fel llymrïaid yn bwydo ar y planctonau, ac mae llawer o rywogaethau eraill fel mecryll, gwylogod, llamhidyddion a morfilod pigfain yn bwydo ar lymrïaid. Mae Pen-caer yn lle gwych i fwydo.”

Mae un o wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth y Môr, Ken Barnett, wedi treulio dros ddegawd yn arsylwi ac yn tynnu lluniau o’r bywyd gwyllt ym Mhen-caer, a dywedodd: Rwyf wedi cwrdd â miloedd o bobl yn ystod fy arolygon ym Mhen-caer ac rwyf wrth fy modd yn rhannu’r gwybodaeth ag eraill, yn enwedig plant ifanc, a fydd, wedi’r cyfan, yn gofalu am fyd natur wrth i amser fynd yn ei flaen.

“Fel adnodd addysgol, mae’r paneli dehongli newydd hyn yn eithriadol ac yn rhoi profiad cadarn i ymwelwyr. Mae wedi bod yn anrhydedd cymryd rhan yn y prosiect ac rwy’n cymeradwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am eu darpariaeth.”

Cafodd hen adeilad cadw gwyliadwriaeth Pen-caer, a oedd unwaith yn orsaf gyfathrebu arbrofol â adeiladwyd yn ystod yr ail Ryfel byd, ei achub rhag ei ddymchwel yn y 1980au ar ôl iddo gael ei brynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Bellach, mae’n safle gwerthfawr ar gyfer astudio mudo adar a bywyd y môr.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn rheoli ac yn berchen ar oddeutu 10 erw o rostir morol ym Mhen-caer. Mae’n gynefin prin sy’n bwysig i flodau gwyllt, pryfed, ymlusgiaid ac adar.

Mae’r paneli dehongli newydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ymwelwyr o’r cyfoeth a’r amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt y gellir eu gweld ar y clogwyni ac yn y dyfroedd o amgylch Pen-caer.

Diwedd

Yn y llun (o’r chwith i’r dde) mae: Ffotograffydd Ymddiriedolaeth Môr Cymru, Ken Barnett; Swyddog Dehongli Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Rhowan Alleyne; a Rheolwr Prosiect Ymddiriedolaeth Môr Cymru, Holly Dunn.

Pictured (left to right) are: Sea Trust Wales photographer Ken Barnett; Pembrokeshire Coast National Park Authority Interpretation Officer, Rhowan Alleyne; and Sea Trust Wales Project Manager Holly Dunn.