Neges Blwyddyn Newydd gan y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cyhoeddwyd : 23/12/2021

Mae wedi bod yn un o’r blynyddoedd prysuraf erioed i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wrth i ni groesawu’r nifer uchaf erioed o ymwelwyr a oedd yn awyddus i fwynhau ein traethau enwog a’n harfordir eiconig, a hynny yn ystod cyfnod pandemig parhaus Covid-19. Mae addasu ein bywydau dros y ddwy flynedd diwethaf wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw cael mynediad at fannau awyr agored o ansawdd da ar gyfer iechyd a lles.

Roeddwn innau hefyd yn gallu elwa ar fuddion iechyd ein harfordir anhygoel yn ystod mis Medi, pan ymgymerais â’m taith gerdded hanner canmlwyddiant (y bu’n rhaid ei aildrefnu) ar hyd Llwybr 186 milltir yr Arfordir. Er gwaethaf gofynion corfforol yr her, roedd yn ddigwyddiad amserol i’m hatgoffa pa mor ffodus rydym ni yn Sir Benfro i gael llwybr cerdded o’r radd flaenaf ac ased mor wych ar garreg ein drws.

Er mor heriol mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod, mae’r cyfnod wedi darparu cyfleoedd amhrisiadwy i’r Awdurdod weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ac aelodau o’r cyhoedd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, i wella hygyrchedd ledled y Parc ac i addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd gofalu am y dirwedd eithriadol sydd o’n gwmpas.

White adult male with grey hair with cliffs and sea in the background

Mae gwaith partneriaeth gyda Chyngor Sir Penfro wedi arwain at osod pwyntiau gwefru cyhoeddus i gerbydau trydan mewn 18 o feysydd parcio sydd wedi’u lleoli’n ganolog ledled y sir, yn ogystal â gosod mannau ail-lenwi dŵr tap am ddim mewn amrywiaeth o leoliadau arfordirol. Mae prynu tua 30 erw o dir fferm graddfa isel ger Trefin hefyd wedi galluogi’r Awdurdod i gefnogi bioamrywiaeth ac i ddal a storio carbon.

Mae cynlluniau newydd fel Gwella o’r Gwraidd, a gyflwynir mewn partneriaeth â MIND Sir Benfro, y cynllun cael gafael ar gadeiriau olwyn ar gyfer y traeth yn ystod misoedd y gaeaf, a’r ail ddigwyddiad rhithwir Diwrnod Archaeoleg a drefnwyd gyda PLANED, wedi cymryd camau breision i sicrhau bod ein Parc yn hygyrch i bawb, ac rydyn ni’n gobeithio adeiladu ar y llwyddiannau hyn dros y flwyddyn nesaf.

Diolch yn arbennig i’r gwirfoddolwyr sydd wedi parhau i gefnogi gwaith yr Awdurdod ar gynifer o brosiectau, gan gynnwys creu llwybrau newydd a chynnal y rhai presennol, ynghyd â gwella mynediad a bioamrywiaeth er mwyn i fwy o bobl allu mwynhau tirweddau unigryw ac amrywiol y Parc Cenedlaethol.

Hoffwn ddiolch hefyd i’r llu o bobl a fu’n ymweld ag Arfordir Sir Benfro drwy gydol y flwyddyn ac a gofiodd y neges i #Troedio’nYsgafn, gan ddiogelu’r rhan arbennig hon o’r byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Er bod dechrau 2022 yn edrych yn ddu, mae gan y flwyddyn ddigon i’w ddathlu, gan gynnwys pen-blwydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 70 oed a phen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed – un o’r ychydig lwybrau troed yn y byd i ddilyn arfordir gwlad.

Gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i ymweld ac archwilio mwy o’ch Parc Cenedlaethol yn ystod 2022 a phrofi’r gorau sydd gan y lle arbennig hwn i’w gynnig.

Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – yn Aelodau a staff – hoffwn ddiolch i’r grwpiau a’r unigolion hynny sydd wedi ein cefnogi yn ein gwaith, a hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd hapus, iach a ffyniannus i bawb.