Mwynhewch fôr-ladron, dreigiau a gwledd i’r llygaid yn awyr y nos ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro’r hanner tymor yma

Posted On : 31/01/2024

Bydd tri atyniad ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gyd yn cynnal amrywiaeth o hwyl hanner tymor ym mis Chwefror, gan gynnig profiadau i’r teulu cyfan a blas o ddiwylliant a threftadaeth yr ardal.

Yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, bydd môr-ladron y moroedd mawr yn glanio‘n amserol ar gyfer gwyliau’r ysgol. Bydd ymwelwyr iau yn gallu cymryd rhan yn Llwybr y Môr-ladron o gwmpas y Castell rhwng dydd Sadwrn 10 Chwefror a dydd Sul 25 Chwefror am ffi fechan. Gall y rhai sy’n llwyddo i ddod o hyd i’r trysor wedi’i ddwyn sydd wedi’i guddio gan fôr-leidr mwyaf drwg-enwog Sir Benfro ddisgwyl gwobr am eu hymdrechion.

Bydd cyfle hefyd i ymuno â’r Capten Jan Sparrow am sesiwn fôr-leidr hwyliog rad ac am ddim, fydd yn cynnwys caneuon, ffwlbri, gemau a’r cyfle i ddatblygu sgiliau cleddyf dramatig. Bydd Môr-ladron Ahoi! yn digwydd ar ddydd Llun 12 Chwefror, dydd Iau 15 Chwefror a dydd Llun 19 Chwefror. Mae’r sesiynau’n para tua 30 munud ac wedi’u trefnu ar gyfer 11am, hanner dydd a 2pm. Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol ac nid oes angen archebu lle.

Bydd Castell Caeriw, a enwyd yn Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro, ar agor rhwng 10.30am a 3.30pm yn ystod gwyliau hanner tymor Cymru a Lloegr, a bydd Ystafell De Nest yn gweini amrywiaeth hyfryd o gacennau cartref a lluniaeth ysgafn yn ystod oriau agor.

A mean-looking pirate with a cutlass, with Carew Castle in the background

Happy children leading last year's Dragon Parade through the streets of St Davids.

Wrth i ddyddiad Gorymdaith y Ddraig eiconig Oriel y Parc ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth nesáu, bydd digonedd o gyfleoedd yr hanner tymor hwn i danio’ch ysbryd creadigol ac ymuno yn yr hwyl.

Bydd Llwybr Helfa’r Ddraig i’w gael ar dir yr oriel a’r ganolfan ymwelwyr rhwng dydd Sadwrn 10 Chwefror a dydd Gwener 1 Mawrth. Am dâl bychan, bydd plant yn cael eu gwahodd i herio ffau’r ddraig a chwblhau’r tasgau er mwyn dod o hyd i wy’r ddraig a chael casglu medal am eu hymdrechion.

Bydd Diwrnodau Celf a Chrefft galw heibio am ddim yn cael eu cynnal bob dydd yn Oriel y Parc rhwng dydd Sadwrn 10 Chwefror a dydd Sul 18 Chwefror (ac eithrio dydd Mercher 14), gan gynnig y cyfle i ddefnyddio deunyddiau celf a gofod y ganolfan i archwilio eich doniau artistig – ac efallai i hyd yn oed gwneud eich draig eich hun ar gyfer Gorymdaith y Ddraig.

Mae Gweithdy Crefft Cariad y Clwb Dydd Mercher! ar ddydd Mercher 14 Chwefror yn rhoi cyfle i ymwelwyr iau ymuno â dathliadau Dydd San Ffolant, a chreu calon ffelt i’w rhoi i rywun annwyl. Bydd y gweithdy galw heibio yma yn cael ei gynnal rhwng 11am-3pm ac yn costio £4 y plentyn.

A small insect with a biofluorescent glow, perched on a leaf.
Fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru, mae Awdurdod y Parc wedi trefnu dau ddigwyddiad i ddathlu harddwch awyr dywyll Sir Benfro ac archwilio eu perthynas â byd natur.

Cynhelir Taith Gerdded Fiofflworoleuol fythgofiadwy yng Ngwarchodfa Natur Coed Pengelli nos Lun 12 Chwefror rhwng 6pm-7.30pm. Dan arweiniad Reveal Nature, mae’r daith gerdded yn cynnig cipolwg ar y byd o gyfathrebu cyfrinachol sy’n digwydd o dan ein trwynau, a’r cyfle i weld amrywiaeth o organebau biofflworoleuol.

Os ydych chi wedi ystyried erioed tybed beth fyddai’n cyndeidiau yn ei feddwl wrth syllu ar y cosmos, efallai y bydd Rhyfeddod Awyr y Nos yng Nghastell Henllys ddydd Mercher 14 Chwefror yn cynnig rhai atebion i chi. Dewch ynghyd o amgylch cynhesrwydd tân tŷ crwn, tra bo’r storïwr Alice Courvoisier yn archwilio clystyrau amrywiol o sêr a’r straeon, mythau a chwedlau cysylltiedig â nhw o draddodiadau diwylliannol gwahanol. Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 14 Chwefror, rhwng 6.15pm-7.45pm.

Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer y ddau ddigwyddiad Wythnos Awyr Dywyll. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain a digwyddiadau a gynhelir yng Nghastell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc ar gael yn https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/cy_GB/hafan.    .

Yn ogystal â hyn i gyd, gallwch hefyd archwilio awyr agored gwych y Parc Cenedlaethol am ddim ar droed. I gael ysbrydoliaeth ynglŷn â pha lwybrau i’w dilyn, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/teithiau-gwe.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hefyd yn treialu cynllun rhentu e-feiciau yn Nhyddewi. Bellach gellir llogi e-feiciau o Oriel y Parc a’u defnyddio i archwilio’r ardal leol gyda chymorth modur trydan. Perffaith ar gyfer goresgyn bryniau serth, neu feicio ychydig ymhellach nag y byddech fel arfer. Mae mwy o wybodaeth am yr e-feiciau ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/llogi-e-feic/.

I’r rhai sydd angen cymorth symudedd ychwanegol, mae amrywiaeth o offer hefyd ar gael i’ch helpu ar eich ffordd, gan gynnwys sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn y traeth. Y mae rhai o’r rhain bellach ar gael i’w llogi am ddim. Am fanylion pellach ewch i  www.arfordirpenfro.cymru/cadeiriau-olwyn-y-traethau.