Mae Oriel y Parc yn edrych ymlaen at haf o siopa, celf a chrefft

Cyhoeddwyd : 30/07/2021

Bydd marchnadoedd dros dro a gweithdai celf a chrefft yn ddim ond rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yr haf hwn.

Mae’r safle yn Nhyddewi ac yn cael ei redeg gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd yn cynnal nifer fach o stondinau dros dro arbennig ar ddydd Mercher ac ar ddydd Gwener rhwng 10am a 2pm drwy gydol gwyliau’r haf. Bydd y rhain yn iard Oriel y Parc, a byddant yn gyfle i gefnogi cyflenwyr lleol yn ogystal â phrynu anrhegion a danteithion unigryw.

I’r ymwelwyr iau, bydd cyfres o weithdai celf a chrefft yn siŵr o ychwanegu hwyl at wyliau’r haf. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar ddydd Mercher mewn amgylchedd yn yr awyr agored a bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol. Byddant yn cael eu harwain gan amrywiaeth o artistiaid talentog.

Ar 28 Gorffennaf, bydd Kate Kekwick yn cynnal gweithdy i blant ar argraffu Gelli, a bydd 4 Gorffennaf yn cynnig cyfle i bobl ifanc greu llyfr bach o frasluniau dan arweiniad Kate Freeman. Bydd yr artist o Solfach, Raul Speek, yn cymryd yr awenau ddydd Mercher 11 Awst gyda rhywfaint o hwyl peintio dros yr haf, a bydd y gweithdy olaf ar 18 Awst gyda Deborah Withey yn archwilio tir Oriel y Parc a chyfle i wneud printiau o unrhyw ganfyddiadau diddorol.

Offcuts of materials used for arts and crafts

Dywedodd Claire Bates, Rheolwr Gwasanaethau i Ymwelwyr yn Oriel y Parc:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob oed yr haf hwn, yn ogystal â rhoi hwb i fusnesau lleol a chysylltu mwy o bobl ifanc â byd celf.

“Mae’n rhaid archebu lle yn y gweithdai plant, sy’n cael eu cefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r rhaglen Arian i Bawb Cymru. Nid oes terfyn oedran ar gyfer y gweithdai, ond rydyn ni’n gofyn bod pob plentyn gael ei hebrwng gan ddim mwy nag un oedolyn cyfrifol. Mae tocynnau’r gweithdai’n costio £4 y plentyn, ac ni chodir tâl am yr oedolion sy’n dod gyda nhw.”

I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd y sesiynau, hyd y sesiynau a sut mae archebu eich lle, ewch i www.orielyparc.co.uk.

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.