Mae hanner tymor gwerth chweil ar y gweill yn atyniadau’r Parc Cenedlaethol

Posted On : 23/10/2023

Bydd tri atyniad ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau ar thema Calan Gaeaf yn ystod hanner tymor Hydref eleni, gydag ysbrydion a gweithgareddau bwganllyd i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Bydd Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i apelio at bob oed drwy gydol wythnos y gwyliau.

Mae’r digwyddiadau yng Nghastell a Melin Heli Caeriw yn cynnwys y cyfle i chwilio’r Castell arswydus am gliwiau mewn Helfa Ysbrydion rhwng 21 Hydref a 5 Tachwedd. Bydd yr unigolion sy’n ddigon dewr i fynd drwy’r Felin Heli dywyll a brawychus, mewn gwisg Calan Gaeaf, hefyd yn falch o glywed bod Y Felin Arswydus yn dychwelyd am ail flwyddyn o godi ofn, yn rhad ac am ddim gyda’r pris mynediad arferol.

Bydd sesiynau adrodd straeon rhyngweithiol gyda naws arswydus hefyd yn cael eu cynnal yn y Castell ar 2 a 3 Tachwedd am 10.15am, 12.15pm a 2pm. Mae Gweithdai Adrodd Stori Room on the Broom eich gwahodd chi i swatio wrth y tân wrth i wrach Caeriw ei hun ddefnyddio propiau i ddod â stori hudolus Room on the Broom gan Julia Donaldson yn fyw. Fe fydd y sesiynau hwyliog yn para awr ac fe argymhellir y sesiynau i blant rhwng 4 ac 8 oed, ac mae’n hanfodol archebu eich lle.

Mae’r digwyddiadau eraill yn cynnwys Gweithdai Clai Arswydus, Cysgod y Fampir: Antur Ryngweithiol Fyw a Hwyl a Sbri Calan Gaeaf gyda Chyfeillion Tylwyth Teg y Goedwig.

Bydd Ystafell De Nest ar agor bob dydd rhwng 10.30am a 4pm, gan weini cinio ysgafn, cacennau cartref a danteithion ar thema Calan Gaeaf, ynghyd â’i siocled poeth moethus adnabyddus.

Ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw i weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau hanner tymor a rhagor o fanylion, gan gynnwys prisiau ac amseroedd agor.

Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, mae ias yn yr awyr wrth i ŵyl hynafol Samhain, neu Galan Gaeaf, agosáu. Rhwng 22 Hydref a 5 Tachwedd, bydd ymwelwyr yn gallu dilyn llwybr pwmpenni arswydus wrth iddyn nhw chwilio am ysbrydion o orffennol Sir Benfro ar Lwybr Calan Gaeaf Henllys. Bydd cyfleoedd hefyd i ailgysylltu â’ch hynafiaid a rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau Cynhanes, gan gynnwys gwneud bara, o ddydd Llun i ddydd Iau.

Yn Storïau Arswydus Sir Benfro ar brynhawn 21 Hydref, bydd y goedwig dywyll o amgylch y pentref yn lleoliad ar gyfer taith arswydus a chyflwyniad i’r straeon rhyfedd a syfrdanol am greaduriaid a chymeriadau llên gwerin Cymru. Rhaid i chi archebu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn yn ogystal â Dathliad Samhain ar 28 Hydref. Un o uchafbwyntiau calendr Castell Henllys, yw’r diwrnod hwn o weithgareddau tymhorol a bydd nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal fel paentio wynebau, arddangosiadau goleuadau tân, straeon am yr Arallfyd a llawer mwy.

Yn Oriel y Parc, gall ymwelwyr ifanc ymuno â’r Llwybr yr Hylif Hudolus Coll rhwng 28 Hydref a 5 Tachwedd, ac ennill gwobr am ddod o hyd i’r cynhwysion cudd i helpu’r wrach i orffen ei hylif hudolus. Bydd Sesiwn Creu eich Daliwr Breuddwydion eich hun hefyd yn ystod y Clwb Dydd Mercher ar 1 Tachwedd. Sesiwn galw heibio yw hon, a fydd yn defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau wedi’u darganfod.

Efallai y bydd gan oedolion creadigol ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn Gweithdy Darlunio Arbrofol a Gwneud Marciau gyda’r artist lleol, Kate Freeman. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer dechreuwyr newydd sbon yn ogystal ag artistiaid sy’n dymuno gweithio mewn ffordd fwy rhydd, a bydd yn defnyddio cymysgedd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u darganfod gydag inciau botanegol. Mae hi’n hanfodol archebu eich lle, sy’n costio £30 y pen.

Bydd yr Oriel ar agor bob dydd drwy gydol yr hanner tymor, gan arddangos gwaith Ned Helyar, Judy Maynard a Chris Prosser.

Mae cyfle hefyd i archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd byw yn arddangosfa Geiriau Diflanedig. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn dod â gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris, a cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane ynghyd, am y tro cyntaf erioed.

Bydd Jackie Morris yn rhannu ei gwaith yn yr Oriel mewn digwyddiad galw heibio rhad ac am ddim ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau hyn ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Three girls dressed as witches and pulling scary faces.