Lansio gorsafoedd newydd i ail-lenwi dŵr yn y Parc Cenedlaethol i leihau’r defnydd o blastig untro

Cyhoeddwyd : 07/02/2022

Bydd ymwelwyr â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael mwy o gyfleoedd i arbed arian, i yfed digon o ddŵr ac i atal llygredd plastig yn y tarddiad, diolch i wyth o orsafoedd newydd i ail-lenwi dŵr sydd wedi cael eu gosod mewn lleoliadau strategol ar hyd yr Arfordir.

Drwy ei gwneud hi’n haws cael gafael ar ddŵr yfed am ddim drwy ei raglen Ffynhonnau Dŵr Yfed, nod Awdurdod y Parc yw lleihau nifer y poteli dŵr plastig untro sy’n cael eu defnyddio yn y Parc Cenedlaethol ac sy’n mynd i’r môr yn y pen draw. Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru yw’r Genedl Ail-lenwi gyntaf yn y byd.

Mae cyllid gan Gynllun Cymorth Amwynderau Twristiaeth Llywodraeth Cymru, a gwaith partneriaeth gyda Chyngor Sir Penfro a Danfo UK Ltd, wedi ei gwneud yn bosibl i osod gorsafoedd ail-lenwi dŵr am ddim y tu allan i gyfleusterau toiledau cyhoeddus yn

  • Llanrath (Gorllewin)
  • Maes Parcio Aberllydan (Millmoor Way)
  • Dwyrain Freshwater
  • Porth Clais
  • Pwllgwaelod
  • Sain Ffraid
  • Nolton Haven*
  • Abercastell*

* Ar gau rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae llygredd plastig yn gallu difetha cymunedau arfordirol ac arwain at ganlyniadau dinistriol i fywyd gwyllt. Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gallu gweithio gyda phartneriaid i osod y gorsafoedd ail-lenwi yma, a fydd yn helpu’r cyhoedd i yfed digon o ddŵr, a hefyd yn lleihau’r defnydd o blastig untro pan fyddan nhw’n crwydro yn y Parc Cenedlaethol.

“Mae’r safleoedd yma’n rhan o rwydwaith cynyddol o orsafoedd ail-lenwi dŵr ar hyd a lled y wlad, ac rydyn ni’n annog pawb i’w defnyddio.”

Mae’r gorsafoedd ail-lenwi newydd, ynghyd â llawer o orsafoedd eraill ar draws y Parc Cenedlaethol a gweddill y Deyrnas Unedig, wedi cael eu cofrestru ar yr ap Refill sydd ar gael am ddim.

Mae fersiwn Gymraeg ar gael hefyd, a gellir llwytho’r ap i lawr yn Google Play a’r App Store.

Ewch i wefan Refill i gael rhagor o fanylion.