Hyb codi sbwriel newydd yn cael ei lansio yn Oriel y Parc

Cyhoeddwyd : 14/01/2022

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi wedi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i greu hyb codi sbwriel cymunedol newydd.

Bydd yr hyb, sy’n rhan o gynllun Caru Cymru Cadwch Gymru’n Daclus, yn lansio ar safle Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda digwyddiad codi sbwriel cymunedol arbennig ar 31 Ionawr.

Mae sbwriel wedi dod yn broblem gynyddol ym mhob rhan o Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi bod yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd gwledig a mannau hardd, lle gwelwyd llawer mwy o ymwelwyr nag arfer. Drwy weithio gydag awdurdodau lleol, nod Caru Cymru yw ysbrydoli unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau i fod yn rhagweithiol wrth ofalu am eu hamgylchedd lleol.

Bydd yr hyb newydd yn Oriel y Parc yn ymuno â rhwydwaith o hybiau eraill ledled y wlad, sy’n cynnig benthyg offer codi sbwriel yn rhad ac am ddim, gan gynnwys teclynnau i godi sbwriel, festiau llachar, bagiau a chylchoedd sbwriel.

Meddai Claire Bates, Rheolwr Gwasanaethau i Ymwelwyr yn Oriel y Parc:

“Mae’n bleser ymuno â’r fenter hon, sy’n ceisio cadw’r llefydd sydd wedi bod mor bwysig i’n lles corfforol a meddyliol dros y blynyddoedd diwethaf yn lân ac yn ddiogel.

“Mae sbwriel nid yn unig yn falltod ar ein hardal leol, ond mae’n arwain at ganlyniadau difrifol i’r bywyd gwyllt sy’n byw ac yn ffynnu yn ein Parc Cenedlaethol.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran mynd i’r afael â’r broblem hon, a nod yr hyb newydd yw darparu’r arfau ar gyfer y gwaith.”

Cynhelir y lansiad yn Oriel y Parc, rhwng 1pm a 3pm ddydd Llun 31 Ionawr, a dim ond lle i hyn a hyn sydd ar gael. Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno bod yn bresennol gofrestru ymlaen llaw drwy fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael taleb ar gyfer paned o de, coffi neu sudd oren am ddim yng Nghaffi Pilgrims.

 

I gael gwybod am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd eraill sy’n digwydd yn Oriel y Parc trwy gydol y flwyddyn ewch i calendr digwyddiadau Oriel y Parc.