Gwaith partneriaeth yn rhoi bywyd newydd i hen gastell

Cyhoeddwyd : 16/08/2021

Mae castell hynafol yng ngogledd y sir yn mwynhau dadeni o ganlyniad i gydweithrediad rhwng cyngor cymuned leol, Prifysgol Durham ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Castell Nanhyfer yn eistedd ar fryn ychydig y tu hwnt i lwybr enwog y pererinion sy’n arwain i Dyddewi. Daeth y Castell i fodolaeth ar ddechrau’r 12fed ganrif, pan adeiladwyd castell tomen a beili a thref fach ar y safle gan yr Arglwydd Normanaidd, Robert FitzMartin.

Dechreuodd y gwaith o ailadeiladu’r safle gyda llechi yng nghanol y 12fed ganrif. Yn ôl pob tebyg arweinydd Cymru, yr Arglwydd Rhys, oedd yn gyfrifol am y gwaith ac mae’n bosib ei fod wedi sefydlu llys neu gwrt yma hefyd. Ond roedd y degawdau nesaf yn eithriadol o gythryblus. Yn 1195, cafodd y castell ei losgi a’i ddymchwel, gan gladdu tystiolaeth o fywyd yn y 12fed ganrif a gadael castell Nanhyfer yn enghraifft barhaol brin o ddechrau proses lle gwelwyd castell pridd a phren yn esblygu i fod yn un wedi’i wneud o garreg.

Mae’r Castell yn Heneb Restredig erbyn hyn a chafodd ei brynu gan Gyngor Cymuned Nanhyfer yn 1980 er budd y gymuned leol ac ymwelwyr. Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae gwaith cloddio helaeth wedi datgelu tystiolaeth brin o fywydau pobl yn y 12fed ganrif; esgid ledr, lamp glai, blaenau saethau haearn a sawl bwrdd Chwarae Nawtwll (Nine Men’s Morris).

Dangoswyd rhai o’r eitemau hyn i’r Tywysog Charles yn ystod yr ymweliad Brenhinol diweddar â Nanhyfer, ynghyd â phanel dehongli yn dangos y gwaith a’r canfyddiadau sydd wedi’u gwneud ar y safle hyd yma.

Scratches on a broken stone (Archaeological dig find

Dywedodd Tomos Ll. Jones, Archeolegydd Cymunedol Awdurdod y Parc:

“Mae sawl cynllun cyffrous ar y gorwel ar gyfer yr adfail hwn a arferai fod yn ysblennydd, yn enwedig o ran hyrwyddo cyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd.

“Mae aelodau Cyngor Cymuned Nanhyfer wrthi’n gweithio gyda staff yr Awdurdod i ddatblygu strategaeth ddehongli ar gyfer y safle pwysig hwn a’r dirwedd o’i gwmpas. Mae gwefan newydd yn cael ei datblygu hefyd, ynghyd â chanllaw gan Dr Chris Caple o Brifysgol Durham.”

“Mae angen rhywfaint o waith cadwraeth hefyd ar y tŵr sgwâr, sef yr enghraifft gynharaf o waith adeiladu o’r math hwn ym Mhrydain.”

Mae safle Castell Nanhyfer ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn gyda rhywfaint o le parcio ar gael ger y safle. Ni chodir tâl mynediad, ond gwahoddir ymwelwyr i gyfrannu i Apêl Tŵr a Chlychau Sant Brynach, sydd wedi adfer set gyfan o glychau i’r eglwys ac sy’n parhau i gyflwyno gwelliannau. Ewch i wefan Eglwys Nanhyfer i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

Ewch i wefan Castell Nanhyfer i gael rhagor o wybodaeth am hanes a chwedlau Castell Nanhyfer,