Grŵp Gwreiddiau i Adferiad yn cael ei enwebu am wobr

Posted On : 22/03/2024

Mae grŵp llesiant lleol sy’n canolbwyntio ar y pŵer gwella sydd gan fyd natur wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Sifil Cyngor Tref Penfro eleni.

Cynhelir y Gwobrau bob blwyddyn a’u nod yw cydnabod unigolion/sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r gymuned neu sydd wedi dod ag anrhydedd i dref Penfro.

Mae Gwreiddiau i Adferiad yn waith partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ac mae’n brosiect sy’n cael ei arwain gan bobl ac sy’n canolbwyntio ar bwerau adferol awyr agored anhygoel Sir Benfro, yn enwedig ei Pharc Cenedlaethol.

Mae rhaglen o weithgareddau ar gael o hybiau yng Nghanolfan Adnoddau Mind Sir Benfro yn Hwlffordd a Neuadd y Dref Penfro. Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch, yn hwyl ac weithiau’n hamddenol, gyda’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys mentoriaid sy’n cefnogi cyfranogwyr eraill a gweithgareddau sy’n cael eu cynnal o’r hybiau.

Mae’r gweithgareddau nodweddiadol yn cynnwys teithiau cerdded (sy’n addas i amrywiaeth o alluoedd), celf a chrefft ar thema awyr agored, cymryd rhan mewn prosiectau lleol fel gerddi cymunedol, gwirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol ac o’i gwmpas, a chyfleoedd i fwynhau tirweddau trawiadol yr ardal.

 

 

Four members of Roots to Recovery carrying a large discarded rope across a beach.

Dywedodd Maisie Sherratt, Swyddog Gwreiddiau i Adferiad:

“Rwy’n gwybod fy mod yn siarad ar ran yr holl staff ar y prosiect pan ddywedaf ein bod yn hynod falch o’r cyfranogwyr a’r mentoriaid yma yn Gwreiddiau i Adferiad. Mae’r ymdrech a’r ymrwymiad y mae pob un yn ei roi i’r prosiect yn rhyfeddol. Mae’n fraint gweithio ochr yn ochr â phobl sy’n awyddus i gael effaith mor anhygoel.”

Bydd Panel y Gwobrau yn ystyried pob enwebiad, a chyflwynir y gwobrau mewn derbyniad yn Neuadd y Dref Penfro ddydd Mawrth 23 Ebrill.

Mae rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn y prosiect Gwreiddiau i Adferiad neu am wirfoddoli ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/gwreiddiau-i-adferiad/, neu drwy ymweld â thudalen Facebook Gwreiddiau i Adferiad ynwww.facebook.com/profile.php?id=100068679281023.

Cefnogir Gwreiddiau i Adferiad drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan fis Medi 2024.

Three members of the Roots to Recovery group filling planters with soil.