Galwad am hysbysebion O Lan i Lan

Posted On : 27/11/2023

Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn galw ar fusnesau lleol i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer 2024, drwy sicrhau gofod hysbysebu yn y cylchgrawn llwyddiannus i ymwelwyr Sir Benfro, sef O Lan i Lan.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cyhoeddi rhifyn 42 o’r cylchgrawn poblogaidd a dwyieithog hwn yn ystod Pasg 2024, ac mae’n gyfle i fusnesau godi eu proffil a hyrwyddo eu hunain i filiwn a mwy o ddarllenwyr.

P’un a ydych chi’n gwerthu rhywbeth blasus neu unigryw, yn creu profiadau anturus neu’n rhoi hwb i fusnes sydd wedi hen sefydlu ei hun, mae O Lan i Lan ar gael mewn cannoedd o leoliadau ledled y sir yn ystod misoedd prysuraf y flwyddyn o ran twristiaeth.

Dywedodd Marie Parkin, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod:

“Dros y degawdau, mae O Lan i Lan wedi bod yn adnodd perffaith i bobl leol ac ymwelwyr, sy’n llawn syniadau gwych ar sut i fynd ati i fwynhau’r Parc; gan gynnwys atyniadau yr Awdurdod i ymwelwyr yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys, ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.

“Mae map, gwybodaeth am fysiau, tablau’r llanw ac amrywiaeth eang o wybodaeth a chyngor am sut i fanteisio i’r eithaf ar ymweliad â’r Parc Cenedlaethol hefyd ar gael.

“Yn ogystal â syniadau am deithiau cerdded a diwrnodau allan ar lan y môr, mae’r cylchgrawn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddiwylliant, treftadaeth a bywyd gwyllt y Parc, ynghyd â rhestr o weithgareddau a digwyddiadau i’r teulu cyfan eu mwynhau.”

“Dechrau mis Ionawr 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyhoeddiad y flwyddyn nesaf, felly cynlluniwch ymlaen llaw ac archebu eich lle mewn da bryd er mwyn osgoi cael eich siomi.”

I gael rhagor o wybodaeth am hysbysebion O Lan i Lan, anfonwch e-bost at advertising@pembrokeshirecoast.org.uk, neu ffoniwch 01646 624895.

An image showing the cover of Coast to Coast 2023