Ewch am dro yn y Parc

Cyhoeddwyd : 17/08/2020

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ailddechrau ei raglen o deithiau cerdded wedi’u tywys, ar ôl gorfod oedi'r digwyddiadau o ganlyniad i effaith y Coronafeirws.

Dan arweiniad tywyswyr profiadol, mae’r teithiau cerdded hyn yn dangos y gorau sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w gynnig, o fywyd gwyllt ysblennydd i hanes diddorol rhai o leoliadau harddaf Sir Benfro.

Bydd y daith gyntaf, Nanhyfer – Cestyll a Phererinion, yn cael ei chynnal ddydd Gwener 21 Awst. Bydd y llwybr cylchog 3 milltir yn dilyn dyffryn hardd Afon Nyfer ar hyd hen lwybr pererinion, ac mae’n cynnwys ymweliadau â chastell hynafol ac ywen waedlyd enwog eglwys Nanhyfer.

Bydd cyfle ar sawl diwrnod drwy fis Awst a mis Medi i’r cyhoedd ddod ar deithiau cerdded diwrnod llawn ar hyd Maes Castellmartin, a mwynhau trysorau cudd y rhan gyfyngedig hon o forlin Sir Benfro. Mae’r holl deithiau cerdded dan arweiniad tywysydd profiadol a hyddysg. Dim ond ychydig o gyfleusterau sydd ar gael ac maen nhw ar gael i bobl dros 18 oed yn unig.

Mae Taith Gerdded Fer Bryniau Preseli: Craig Talfynydd wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mercher 26 Awst rhwng 1pm a 3.30pm. Ar ôl dringo’n raddol i fyny llethrau Craig Talfynydd i gyfeiriad Bedd Arthur a’i olygfeydd gwych o Garn Meini, bydd y daith yn parhau i Garn Bica cyn dychwelyd heibio’r safle lle disgynnodd awyren Liberator i’r ddaear yn yr Ail Ryfel Byd, ac yn ôl i Dan Garn.

Cynhelir taith gerdded o amgylch porthladd Solfach fore dydd Gwener 28 Awst. Mae  Solfach: Smyglwyr a Mudo yn daith gerdded gylchog hamddenol sy’n cynnwys hen safleoedd milwrol a chaerau o Oes yr Haearn, a storïau am longddrylliadau, smyglo a digwyddiadau rhyfedd o’r hen amser!

I’r rheini â diddordeb mewn hanes dyfrffyrdd mewndirol Sir Benfro, mae Taith Gerdded y Tri Chei ar ddydd Gwener 11 Medi, sy’n saith milltir o hyd, yn gyfle i dreulio diwrnod cyfan yn dysgu am gyfrinachau’r tri chei cysylltiedig – yn cynnwys hanes y diwydiant glo lleol yn ogystal â safleoedd milwrol, iardiau llongau, cestyll, y tŷ hynaf yn Sir Benfro a safle trychineb ddychrynllyd mewn pwll glo.

Mae nifer o Deithiau Cerdded Gwylio Morloi ym Mhorthstinan a Llanwnda yn rhan o’r rhaglen, gan roi cyfle i bobl ymuno â Pharcmyn lleol ar ddechrau tymor geni’r morloi bach a dysgu sut mae gwylio’r creaduriaid rhyfeddol hyn yn ddiogel.

I gloi, efallai y bydd y rhai sy’n frwdfrydig dros adar yn awyddus i ymuno â’r Parcmon lleol am un o ddwy daith gerdded wedi’u tywys ar thema Adar yr Aber: Adar Gwyllt Cleddau Wen. Mae’r teithiau hamddenol hyn ar hyd glannau’r Cleddau, a gynhelir ym Mae Angle fore dydd Sadwrn 7 Tachwedd a Little Milford ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr, yn gyfle delfrydol i weld y bywyd gwyllt sy’n chwilio am fwyd ar hyd ei glannau ac i gael cip ar adar hirgoes fel y gylfinir a’r ganwraidd goesgoch.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae mesurau diogelwch ychwanegol ar waith i sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb sy’n cymryd rhan.

Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer pob taith, gan mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael er mwyn ei gwneud hi’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

I gael mwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Seal pup on Skomer Island taken by National Park Ranger Chris Taylor

Dyma ddyddiadau ac amseroedd Teithiau Cerdded Maes Castellmartin:

Dydd Sul 23 Awst     9.30am-4pm

Dydd Sul 30 Awst     9.30am-4pm

Dydd Llun 31 Awst    9.30am-4pm

Dydd Sul 13 Medi     9.30am-4pm

 

Dyma ddyddiadau ac amseroedd Teithiau Cerdded Gwylio Morloi:

Dydd Sul 13 Medi                             9.45am-4pm  Porthstinan

Dydd Gwener 18 Medi                     6pm-8pm       Llanwnda

Dydd Sadwrn 26 Medi                     9.45am-4pm  Porthstinan

Dydd Mercher 7 Hydref                    6pm-8pm       Llanwnda

 

Dyma deithiau cerdded eraill a fydd yn digwydd dros yr wythnosau nesaf:

Taith Gerdded Dinas Tyddewi                                    Dydd Mercher 9 Medi, 1.30pm-3pm

Abereiddi i Borthgain, Gorffennol Diwydiannol                 Dydd Iau 15 Hydref, 10am.