Ewch allan i’r awyr agored gyda’ch disgyblion ar Ddiwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored 5 Tachwedd

Posted On : 29/10/2020

Wrth i ddisgyblion ein sir ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth yr wythnos nesaf, mae Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn galw ar athrawon i gefnogi Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored ar 5 Tachwedd gyda’r thema Caru’r Awyr Agored.

Mae Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored yn fudiad byd-eang i ysbrydoli a dathlu chwarae a dysgu awyr agored, gartref ac yn yr ysgol.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn rhannu syniadau sy’n ysbrydoli ar sut i symud dysgu a chwarae i’r tu allan ar dir yr ysgol, gydag adnoddau sy’n gysylltiedig â phob rhan o Gwricwlwm Newydd Cymru. Os ydych chi’n credu y dylai plant fod yn yr awyr agored bob dydd, yn chwarae, dysgu ac archwilio, yna ymunwch â’r gymuned Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored trwy eu gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Meddai Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro: “Mae plant yn treulio llai o amser yn yr awyr agored nag erioed o’r blaen ac mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Pan fydd plant yn cael eu trwytho yn yr awyr agored, boed hynny ar dir yr ysgol neu yn eu cymdogaethau lleol, maent yn aml yn hapusach ac yn iachach ac mae’n gwella lles disgyblion a staff.

“Mae ysgolion sydd wedi ymgorffori dysgu awyr agored yn eu rhaglenni addysgu wedi gweld gwelliant mewn cyrhaeddiad a phresenoldeb, yn ogystal â llawer o fuddion eraill ymhlith eu dysgwyr, gan gynnwys gwell sgiliau cymdeithasol a gwell gwaith tîm.”

Mae dysgu awyr agored yn rhan boblogaidd iawn o ddysgu cartref ac ysgol, ac mae’n chwarae rhan bwysig yn y dull addysgu cyfunol.

Meddai Bryony: “Hyd yn hyn mae dros naw miliwn o blant wedi cymryd rhan yn Niwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored yn fyd-eang. Pan ymunwch, cewch gyfle i roi eich ysgol neu’ch cartref ar fap y byd i ddangos eich bod chi’n rhan o’r mudiad Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored byd-eang, felly gadewch i ni roi ysgolion Sir Benfro ar y map! ”

I gael mwy o wybodaeth am Ddiwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored, ewch i https://outdoorclassroomday.org.uk/

I gael mwy o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, cysylltwch â Bryony ar bryonyr@pembrokeshirecoast.org.uk, ffoniwch 07870 488014 neu ewch i wefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro. Am syniadau dilynwch ni ar Twitter @PembsOutdoorSch ac ar Facebook @Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.

Pupils learning outdoors with teachers