Eich barn ar ein Hamcanion Llesiant newydd

Cyhoeddwyd : 12/01/2022

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) am sicrhau bod y gwaith a wnawn yn canolbwyntio ar ymateb i'r heriau mawr sy'n wynebu pobl, yr amgylchedd ac ardal y Parc.

Ymhlith yr heriau hyn mae’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur, gwella iechyd a lles, a chefnogi cymunedau cynaliadwy yn y Parc.

Mae’n ofynnol i’r Awdurdod gael Amcanion Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Rydym wedi edrych ar ein Hamcanion Llesiant cyfredol ac yn dymuno eu newid a lleihau nifer yr Amcanion i’n helpu i ganolbwyntio ein gweithgareddau ar ddiwallu’r heriau uchod. Rydym hefyd wedi clustnodi nifer o ganlyniadau i’n helpu i flaenoriaethu’r gwaith a wnawn o dan yr amcanion hyn.

Cliciwch y ddolen i lawrlwytho fersiwn hawdd ei ddarllen o’n hymgynghoriad Amcanion Llesiant Newydd.

Y pedwar Amcan Llesiant newydd a awgrymir, a chanlyniadau’r amcanion hyn yw:

  1. Amcan Llesiant: Cadwraeth – Atal y dirywiad a gwella ansawdd, maint a chysylltedd bioamrywiaeth ar raddfa, fel bod natur yn ffynnu yn y Parc.
  • Dad-wneud y colli a gwella bioamrywiaeth ar dir ac yn yr amgylchedd morol.
  • Cynnydd yn y tir a reolir ar gyfer cadwraeth yn y Parc (a gyflawnir drwy ddylanwadu a gweithio gydag eraill a rheoli ein hystâd ein hunain).
  • Cynnydd mewn cysylltedd ecolegol.
  • Cefnogir ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur.
  1. Amcan Llesiant: Hinsawdd – Cyflawni Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030 a chefnogi’r Parc i gyflawni niwtraliaeth carbon ac addasu i effaith Newid Hinsawdd.
  • APCAP i fod yn Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.
  • Mae APCAP wedi cefnogi’r Parc ar ei lwybr i ddod yn garbon niwtral mor agos â phosibl i 2040.
  • Mae’r Parc Cenedlaethol yn fwy cydnerth i effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda phartneriaid a chefnogi gwaith a arweinir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Mae’r gweithgareddau o ymgysylltu â’r staff a’r cyhoedd yn ehangach wedi arwain at newid ymddygiad.
  1. Amcan Llesiant: Cysylltiad – Creu Parc sy’n Wasanaeth Iechyd Naturiol sy’n cefnogi pobl i fod yn fwy iach, yn fwy hapus ac yn fwy cysylltiedig â’r dirwedd, natur a threftadaeth.
  • Cefnogir pobl i fyw bywyd mwy egnïol yn gorfforol a chael mynediad i’r Parc Cenedlaethol drwy hyrwyddo cyfleoedd hamdden awyr agored cynaliadwy.
  • Cefnogir pobl i roi gwybod bod cael mynediad i’r Parc Cenedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.
  • Mae APCAP wedi helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau all gael effaith ar bobl o gefndiroedd amrywiol neu sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol rhag cysylltu â chyfleoedd natur a threftadaeth yn y Parc lle bo hynny’n bosibl.
  • Rhoi cymorth i alluogi pobl o bob oed i ddatblygu dealltwriaeth o’r Parc Cenedlaethol.
  • Mae’r isadeiledd yn cael ei gynnal, gan gynnwys y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r asedau treftadaeth i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol a’i fwynhau.
  • Mae asedau hanesyddol yn y Parc Cenedlaethol yn cael eu gwarchod a’u gwerthfawrogi.
  1. Amcan Llesiant: Cymunedau – Creu cymunedau bywiog, cynaliadwy a llewyrchus yn y Parc lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau
  • Mae ymwelwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau lleol ac i Rinweddau Arbennig y Parc.
  • Gweithio’n agosach gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol i ddeall a chefnogi blaenoriaethau lleol yn well.
  • Mae cymunedau’r Parc Cenedlaethol yn fywiog, yn gynaliadwy ac yn llewyrchus.
  • Mae gan breswylwyr ac ymwelwyr opsiynau effeithiol a chynaliadwy (gan gynnwys defnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy) i deithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol.
  • Mae gwaith yr Awdurdod yn cyfrannu at fywyd Sir Benfro drwy gefnogi cynnal gweithgareddau Cymraeg, diwylliannol, hamdden a chymunedol.

 

Ein gobaith yw y bydd canolbwyntio ar yr amcanion hyn yn golygu y gall yr Awdurdod gyfrannu at gyflawni ymrwymiadau a thargedau ehangach Cymru a’r Byd:

I gael rhagor o wybodaeth gefndirol am y rhesymau dros ddewis yr Amcanion hyn gweler yr adroddiad canlynol o Bwyllgor yr Awdurdod Parc Cenedlaethol o 15/21/21.

 

Sut mae ymateb

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar yr amcanion a’r canlyniadau newydd arfaethedig. Derbynnir ymatebion erbyn 4 Mawrth 2022.

Anfonwch unrhyw ymatebion drwy ebostio mairt@pembrokeshirecoast.org.uk (gan nodi Amcanion Llesiant yn nheitl y pwnc) neu at y Cydlynydd Perfformiad a Chydymffurfiaeth, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.

 

Hysbysiad Preifatrwydd – Ymgynghoriad ar yr Amcanion Llesiant

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â’r modd y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (fel Rheolwr Data) yn prosesu unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad ar ei Amcanion Llesiant newydd. I gael rhagor o wybodaeth am y modd y mae’r Awdurdod yn prosesu’ch gwybodaeth, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data a’r modd y mae arfer yr hawliau hynny, dylech ymgynghori â Hysbysiad Preifatrwydd safonol yr Awdurdod, neu gysylltu â Swyddog Diogelu Data yr Awdurdod.

 

Diben – Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom

Y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer yw:

  • i brosesu’r ymatebion i’r ymgynghori a chadarnhau ein bod wedi derbyn yr ymateb
  • i roi adborth i unrhyw ymatebion a ddarperir
  • i gadw cofnod o’r ymatebion i’r ymgynghori a dderbyniwyd

Y data personol sy’n cael ei gasglu

Byddwn yn prosesu’r data personol canlynol i brosesu’r ymatebion i’r ymgynghori, cadarnhau derbyn yr ymateb, a rhoi adborth i unrhyw ymatebion a ddarperir: enw, sefydliad / grŵp, manylion cyswllt a ddarperir – e-bost, cyfeiriad post.

Ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Y sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni i brosesu data personol at y dibenion a restrir uchod yw erthygl 6 (1) o GDPR y DU:

  • (e) – tasg gyhoeddus (diwallu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar gyfranogi).

Rhannu gwybodaeth

Bydd yr Awdurdod o bosibl yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol. Byddwn hefyd o bosibl yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw enwau, na manylion cyswllt yr unigolyn a anfonodd yr ymateb. Os darperir ymateb ar ran sefydliad neu grŵp byddwn o bosibl y cyhoeddi enw’r grŵp neu’r sefydliad gyferbyn â’r ymateb. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad / grŵp ac nad ydych yn dymuno i enw’r sefydliad / grŵp gael ei gyhoeddi, dywedwch hynny wrthym yn ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb.

Cadw data

Bydd APCAP yn cadw eich data personol sy’n ymwneud â’ch ymateb ar ein seilwaith TG corfforaethol am hyd at dair blynedd.