Dull gweithredu symlach newydd ar gyfer y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd : 25/08/2020

Bydd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn symleiddio’r ffordd mae’n gweithredu ac yn newid ei phwyslais dros y flwyddyn nesaf, mewn ymateb i argyfwng cynyddol y newid yn yr hinsawdd.

Mae Awdurdod y Parc yn neilltuo dros £150,000 y flwyddyn i’r Gronfa, a dros y ddau ddegawd diwethaf mae wedi cefnogi dros 200 o brosiectau unigol sydd wedi cynnig buddion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i gymunedau yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’r prosiectau hyn wedi cynnwys adeiladu eco-gartrefi gan ddefnyddio deunyddiau lleol, cynlluniau ynni gwyrdd, rhaglenni i reoli lledaeniad rhywogaethau o blanhigion estron goresgynnol a grantiau ar gyfer atyniadau lleol i ymwelwyr.

Yn dilyn argymhellion Cynllun Gweithredu Awdurdod y Parc ar gyfer Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd, bydd pwyslais yn awr ar gefnogi datgarboneiddio.

Bydd y dull gweithredu newydd yma’n golygu bod ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am un o dri phrosiect penodol i leihau carbon – gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar adeiladau cymunedol, helpu i leihau allyriadau carbon ym maes trafnidiaeth, neu osod cyfleusterau cymunedol sy’n lleihau gwastraff – gyda phedwerydd opsiwn ar gyfer unrhyw fenter gymunedol arall i leihau carbon.

Mae’r broses ymgeisio wedi cael ei gwneud yn fwy effeithlon hefyd, drwy gyflwyno rhestr wirio ar-lein ar gyfer cymhwysedd, cyhoeddi dyddiadau cau gyda chanllawiau clir ar hyd prosiectau a faint o gyllid sydd ar gael, ffurflen gais wedi’i symleiddio a hyd at ddau ddyddiad cau y flwyddyn ar gyfer cyflwyno cais.

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau fydd hanner dydd, ddydd Gwener 2 Hydref 2020.

Dywedodd Jess Morgan, Swyddog Grantiau’r Parc Cenedlaethol:

“Yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol, bydd y newidiadau arfaethedig yn gwneud y cynllun yn fwy effeithlon ac yn arwain at welliannau eraill o ran cost-effeithiolrwydd, tryloywder a faint o amser staff sy’n cael ei dreulio ar weinyddu a chefnogi.

“Drwy fabwysiadu’r dull gweithredu newydd yma, byddwn mewn sefyllfa well i fesur effaith y gronfa. Er enghraifft, gallem gyfrifo’r gostyngiad mewn allyriadau carbon o ganlyniad i osod paneli ffotofoltäig ar neuadd y pentref.”

Mae £50,000 ychwanegol (i’w wario erbyn mis Mawrth 2021) wedi cael ei neilltuo i’r Gronfa gan gynllun Mannau Cynaliadwy, Tirweddau Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau datgarboneiddio cyfalaf.

Bydd y cynllun yn mynd yn weithredol ac yn agor i geisiadau ddiwedd mis Awst. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cdc, neu cysylltwch â Jess Morgan yn Awdurdod y Parc ar 01646 624808 neu anfonwch e-bost i jessicam@arfordirpenfro.org.uk.