Diwrnod Hwyl Sandy Bear yn dychwelyd i Gastell Caeriw

Posted On : 06/06/2023

Bydd Castell Caeriw yn cynnal Diwrnod Hwyl Sandy Bear ddydd Sadwrn am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Nod y Diwrnod Hwyl yw codi proffil yr elusen profedigaeth i blant, ynghyd â chodi rhywfaint o arian y mae mawr ei angen i gefnogi eu gwaith hanfodol.

Bydd rhaglen lawn o weithgareddau hwyliog yn cael ei chynnal yn atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod y dydd, gyda rhywbeth sy’n addas i bobl o bob oedran a diddordebau. Bydd yr adloniant yn cynnwys gweithdai cerddoriaeth a pherfformiadau, adrodd straeon, picnic tedi bêrs a sioe hud. Bydd hefyd cyfle i gael tynnu llun gyda Sandy Bear ei hun, a helpu i godi arian ar gyfer yr achos arbennig hwn.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Diwrnod Hwyl i’r Teulu Sandy Bear wedi bod yn un o uchafbwyntiau go iawn Caeriw. Rydyn ni mor falch o allu cefnogi’r elusen ysbrydoledig hon, ac rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda nhw eto yn y dyfodol.”

Mae ffioedd mynediad arferol y Castell yn berthnasol, gan gynnig cyfle i chi archwilio’r Castell a’r Felin ar eich ymweliad. Bydd Ystafell de Nyth hefyd ar agor ar gyfer detholiad o giniawau ysgafn a danteithion blasus rhwng 10.30am a 4pm.

Bydd Diwrnod Hwyl Sandy Bear yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw ddydd Sadwrn 10 Mehefin rhwng 10am a 4pm, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael drwy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Sandy Bear ar Facebook @sandybearbereavement, Twitter @SandyBearPembs ac ar LinkedIn.

I gael rhagor o wybodaeth am Sandy Bear a’r gwaith mae’r elusen yn ei wneud i wella a chryfhau iechyd a llesiant emosiynol pobl ifanc 0-18 oed (a’u teuluoedd) sydd wedi profi marwolaeth rhywun annwyl, ewch i www.sandybear.co.uk.

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw a lleoliadau eraill ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod yr haf, ewch i www.arfordirpenfro/cymru/digwyddiadau.

Sandy Bear at Carew Castle with a young family