Diwrnod Archaeoleg Rhithwir i ddatgelu hanes a threftadaeth gyfoethog Sir Benfro

Posted On : 11/10/2021

Bydd Diwrnod Archaeoleg Arfordir Penfro yn dychwelyd ar 20 Tachwedd 2021 gyda chyflwyniadau ar amrywiaeth o brosiectau cyffrous a gwaith cloddio yn digwydd ym mhob cwr o’r sir.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn partneriaeth â PLANED, a bydd yn cael ei gynnal ar-lein am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd COVID-19.

Dywedodd Tomos Jones, Archeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol, a fydd yn cyflwyno’r digwyddiad ochr yn ochr â Chydlynydd Diwylliannol PLANED, Stuart Berry: “Bydd y cyflwyniadau’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Claddedigaeth Cerbyd rhyfel, gwaith cloddio yng Nghaerfai, Capel Sant Padrig, Priordy Hwlffordd, megalithiau Sir Benfro, Castell Henllys a Chastell Nanhyfer.

“Bydd cyfle hefyd i glywed am brosiectau treftadaeth cymunedol ym Mhenfro, Llangwm a Bryniau Preseli.”

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad rhith yn £5 ac maen nhw ar gael i’w prynu oddi ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd y rhaglen lawn a’r cyfarwyddiadau ymuno â’r digwyddiad yn cael eu hanfon at bawb a fydd yn cymryd rhan ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.

I archebu lle ewch i www.arfordirpenfro.cymru/event/archaeology-day/.