DILYNWCH REOLAU’R CYFYNGIADAU SYMUD DYWED ARWEINWYR CYHOEDDUS

Posted On : 20/10/2020

Mae arweinwyr cyhoeddus yn Sir Benfro yn annog pobl i gydymffurfio â’r mesurau diweddaraf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru o dan ei chynllun ‘cyfnod atal’.

Mae’r Cynghorwyr David Simpson a Paul Harries – Arweinydd Cyngor Sir Benfro a Chadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eu trefn – wedi adleisio teimladau galwad Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford i “ddod ynghyd”.

“Mae’n hanfodol er mwyn diogelwch pawb ohonom ein bod yn dilyn y rheoliadau sy’n dod i rym ddydd Gwener”, pwysleisiodd y Cynghorydd Simpson.

“Er bod nifer yr achosion o coronafeirws yn Sir Benfro yn gymharol isel o’i gymharu ag ardaloedd eraill yn y wlad, mae’r ffigyrau yma yn codi.  Yn ddiamheuol, byddai angen cymryd mesurau yn hwyr neu’n hwyrach yn ein gwlad er mwyn atal y cynnydd hwnnw.

“Y meddwl yw y bydd cyflwyno ‘cyfnod atal’ am 17 diwrnod yn awr ar draws y wlad yn arafu lledaeniad y feirws ac yn atal y GIG rhag cael ei orlethu gydag achosion Covid-19.

“Gallai hyn o bosibl arbed cannoedd o farwolaethau.

“Felly, apeliaf ar bawb i gydymffurfio â’r cyfyngiadau sy’n cael eu cyflwyno a dilyn y cyngor diogelwch o wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus cyfyngedig, cadw pellter cymdeithasol a golchi eich dwylo yn rheolaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries: “Rydym yn gwerthfawrogi y bydd pobl eisiau cael mynediad at y Parc Cenedlaethol a’r awyr agored yn fwy nag erioed wrth inni symud i mewn i gyfnod atal y cyfyngiadau symud, ond rydym yn gofyn i bobl ddilyn y canllawiau ac ymarfer o’u cartrefi yn unig, tra’n dilyn y Côd Cefn Gwlad.

“Rydym yn deall bod y cyfyngiadau yn heriol i bobl, ond ein blaenoriaeth fwyaf yw cadw Sir Benfro yn ddiogel a byddwn yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y canllawiau.

“Pan mae’r amser yn iawn, edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Sir Benfro a phwysicaf oll, byddwn yn gwneud hynny ar adeg pan allwn ni gadw pawb yn ddiogel.  Am y tro, rydym yn annog pawb i ddilyn canllawiau’r cyfnod atal ac aros gartref er mwyn bod yn ddiogel.”

Er mwyn cael rhestr o Gwestiynau Cyffredin, ewch i

https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin

Ar gyfer derbyn y cyngor diweddaraf a’r datganiadau i’r wasg sy’n ymwneud â choronafeirws, edrychwch os gwelwch yn dda ar: www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws

Ar gyfer ymholiadau’r wasg, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at: presspublicrelations@sir-benfro.gov.uk

 

Autumn Freshwater East