Dewch o hyd i hwyl greadigol wedi’i ysbrydoli gan Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc yr haf hwn

Cyhoeddwyd : 21/07/2023

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai hwyliog yr haf hwn i ysbrydoli pobl i fod yn greadigol ac ailgysylltu â byd natur.

Agorodd yr arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc ar ddydd Sul 2 Gorffennaf a bydd ar agor yn Nhyddewi tan 28 Ebrill 2024. Mae’r brif oriel ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm.

O ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf i ddydd Sul 3 Medi bydd Llwybr Hwyl yr Haf wedi’i ysbrydoli gan Geiriau Diflanedig yn rhoi cyfle i chi ddod o hyd i’r marcwyr ar y llwybr synhwyraidd i greu eich cerdd natur. £3 y plentyn. Hefyd yn cynnwys gwobr fach!

Bydd weithdai dan arweiniad artistiaid ar bob ddydd Mercher ym mis Awst. Tocynnau yn £5 y plentyn. Sylwch fod archebu lle yn hanfodol ar gyfer rhai gweithdai gan fod niferoedd yn gyfyngedig.

Ar ddydd Mercher 2 Awst bydd gweithdy clai Adar mewn llaw gyda Kate Evans gyda sesiynau 11am-12 canol dydd a 1.30pm-2.30pm, yn rhoi cyfle i chi defnyddio eich dwylo i greu aderyn clai gyda neges at natur wedi ei guddio ynddi. Mae archebu ar gyfer y gweithdy clai Adar mewn llaw gyda Kate Evans yn hanfodol (agor mewn ffenestr newydd).

Ar ddydd Mercher 9 Awst bydd cyfle i ymuno a Hannah Rounding i greu papur wedi’i argraffu â llaw gan ddefnyddio brwsys paent naturiol ac offer argraffu cartref i wneud gludwaith o blanhigion ac anifeiliaid wedi’u hysbrydoli gan Geiriau Diflanedig. Sesiynau 11am-12 canol dydd a 1pm-2pm. Mae archebu ar gyfer y gweithdy Gludwaith wedi’u hargraffu â llaw gyda Hannah Rounding hanfodol (agor mewn ffenestr newydd).

Bydd Kate Freeman yn arwain gweithdy Arlunio o Natur gydag inc a brwsh ar ddydd Mercher 16 Awst o 10.30am-12 canol dydd a 1.30pm-3pm. Gan astudio planhigion a dail yn ein tiroedd, crëwch farciau a thrawiadau brwsh gydag inciau ac offer wedi’u gwneud â llaw yn eich llyfr braslunio eich hun. Mae archebu ar gyfer y gweithdy Arlunio o Natur gydag inc a brwsh hanfodol (agor mewn ffenestr newydd).

Bydd Hannah Rounding yn dychwelyd ar ddydd Mercher 23 Awst i arwain gweithdai Monoprintiau natur o 11am-12 canol dydd a 1pm-2pm. Bydd y gweithdai yn seiliedig ar natur a Geiriau Diflanedig gan ddefnyddio techneg argraffu fono syml y gallwch ei defnyddio gartref. Mae archebu ar gyfer y gweithdy Monoprintiau Natur gyda Hannah Rounding yn hanfodol (agor mewn ffenestr newydd).

Bydd sesiynau galw heibio Cardiau post natur rhwng 11am-3pm ar ddydd Mercher 30 Awst. Ymunwch â’n gweithdy i wneud eich cerdyn post natur eich hun o ddelweddau a darganfyddiadau o amgylch Sir Benfro. £3 y plentyn.

I archebu eich lle ar weithdy, ewch i wefan archebu Oriel y Parc (agor mewn ffenestr newydd).

Mae’r arddangosfa Geiriau Diflanedig yn archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd, a phŵer natur i ddeffro’r dychymyg. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, gwaith celf wreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Mae geiriau a dyfrlliwiau’r llyfr yn cael eu harddangos yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd hefyd fel rhan o’r cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa eiriau Diflanedig ewch i dudlaen yr arddangosfa Geiriau Diflanedig.

I gael rhagor o wybodaeth am oriau agor yn ogystal â digwyddiadau ac arddangosfeydd eraill yn Oriel y Parc ewch i wefan Oriel y Parc.