Defnyddiwch eich doniau creadigol ac ymunwch â Pharêd y Ddraig Ddigidol Oriel y Parc

Cyhoeddwyd : 10/02/2021

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn gwahodd pobl o bob oed a gallu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn rhithiol eleni drwy ‘Dynnu llun Draig’ a rhannu eu lluniau drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Oriel y Parc yn gosod her ichi dynnu llun a chreu Draig Ddydd Gŵyl Dewi arbennig ar gyfer Parêd y Ddraig Ddigidol ar ddydd Llun 1 Mawrth, i ddathlu nawddsant y genedl ar y cyfryngau cymdeithasol mewn dathliad cadarnhaol o bopeth Cymreig.

Meddai Rheolwr Oriel y Parc, Claire Bates: “A hithau yn ninas Tyddewi yn Sir Benfro, byddai Oriel y Parc fel arfer yn dathlu’r diwrnod arbennig drwy drefnu Gorymdaith y Ddraig drwy’r ddinas. Mae plant ysgol lleol a grwpiau cymunedol fel arfer yn gorymdeithio drwy’r strydoedd gyda dreigiau wedi’u creu’n arbennig a band.

“Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, nid yw hyn yn bosibl eleni, felly mae Oriel y Parc yn annog pobl i aros gartref, dylunio draig a dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ddigidol.”

Rhannwch eich creadigaethau ag Oriel y Parc ar y cyfryngau cymdeithasol ar 1 Mawrth gan ddefnyddio’r hashnod #ParêdyDdraig drwy:

Fel arall, anfonwch lun o’ch draig dros yr e-bost i: info@orielyparc.co.uk a bydd Oriel y Parc yn eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc ewch i www.orielyparc.co.uk.