Cyfyngiadau newydd ar y gweill ar fynediad i lithrffordd Freshwater East

Posted On : 11/03/2022

Ni fydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu defnyddio’r llithrffordd yn Freshwater East ar gyfer cychod sy’n cael eu lansio gan gerbyd rhwng 4 Ebrill a 30 Medi 2022, yn dilyn blynyddoedd o bryder cyffredinol ynghylch diogelwch pawb sy’n defnyddio’r dŵr yn yr ardal.

Bydd y rhwystr ar ben y llithrffordd, sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cael ei gloi a dim ond i Glwb Badwyr a Physgotwyr Freshwater East, y gwasanaethau brys, ac ar gyfer gwaith hanfodol fel glanhau’r traeth y bydd mynediad yn cael ei roi.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones:

“Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu gwneud ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid a phryder cyffredinol ymysg trigolion lleol, ymwelwyr a chyrff cyhoeddus, ac maen nhw’n dod yn sgil defnyddio amddiffyniad diogelwch ar y llithrffordd dros y ddau haf prysur diwethaf.

“Mae pob cam wedi cael ei gymryd gyda diogelwch defnyddwyr y traeth mewn golwg ac i sicrhau bod pobl sydd â chychod personol yn defnyddio lleoliadau mwy addas, fel Dyfrffordd Aberdaugleddau.”

Mae’r mynediad i gerddwyr wedi cael ei ledu a’i wella i un ochr o rwystr y llithrffordd er mwyn i’r cyhoedd barhau i ddefnyddio’r llithrffordd ar droed ac ar gyfer lansio cychod bach, fel caiacs, â llaw. Mae lle ar ben y llithrffordd i un cerbyd stopio a dadlwytho. Ar ôl ei ddadlwytho, rhaid i’r cerbyd symud a pharcio yn y maes parcio.

Bydd y rheini sydd ag allweddi yn gallu parcio cerbydau a threlars ar y traeth o hyd, i’r de (dde) o’r llithrffordd tra byddant ar y dŵr yn eu cwch.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk neu ffoniwch 01646 624800.