Cyfle i fod yn greadigol yn y Parc Cenedlaethol yng Ngŵyl Archaeoleg Prydain eleni

Posted On : 21/07/2023

Mae Gŵyl Archaeoleg Prydain 2023 wedi cychwyn ac yn cael ei dathlu o amgylch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda chyfres o ddigwyddiadau wedi'u hysbrydoli gan dirweddau hynafol a thrawiadol yr ardal.

Thema’r Ŵyl eleni yw ‘Archaeoleg a Chreadigrwydd’, a bydd pob un o’r tri atyniad i ymwelwyr sy’n cael eu rhedeg gan Awdurdod y Parc yn cynnig cyfle i ddod yn agos ac yn bersonol â gorffennol Sir Benfro.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd gweithdy arbennig Clwb Dydd Mercher! ar thema Creu Ffosilau yn cael ei gynnal ddydd Mercher 26 Gorffennaf.  Gweithgaredd delfrydol i’r rheini sydd eisiau gwneud rhywbeth creadigol yn ystod y gwyliau, bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal rhwng 11am a 3pm am £3 y plentyn.

Bydd y rheini sy’n ymweld â Phentref Oes Haearn Castell Henllys dros yr wythnos nesaf yn gallu edrych ymlaen at amrywiaeth o ddigwyddiadau. Bydd y rhain yn cynnwys ffasiwn a rhyfela hynafol, ynghyd â chyffro dehongli’r gorffennol drwy ddarganfyddiadau archaeolegol.

Mae’r gweithdy Ffasiwn y Gorffennol, sy’n rhan o’r pris mynediad arferol, yn edrych ar sut roedd ein hynafiaid yn gwneud dillad ac eitemau eraill i’w gwisgo drwy ddefnyddio deunyddiau naturiol. Bydd yn cael ei gynnal ddydd Sul 23 Gorffennaf rhwng 10am a 4pm.

Mae tair sesiwn Ysgol Rhyfela hefyd wedi’u trefnu yn ystod yr wythnos. Bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i godi arfau a dysgu technegau ymladd o wahanol gyfnodau o hanes. Bydd y sesiwn Oes yr Haearn yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 25 Gorffennaf, byddwn yn symud ymlaen i’r Rhufeiniaid ddydd Mercher 26 Gorffennaf a’r Llychlynwyr ddydd Iau 27 Gorffennaf.

Bydd pob sesiwn Ysgol Rhyfela yn cael ei chynnal rhwng 10:15am a 4:15pm ac mae modd archebu lle ymlaen llaw yn https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/cy_GB/hafan/castell-henllys/ am £3 y pen.

Ddydd Gwener 28 Gorffennaf, bydd y Pentref Oes Haearn yn cynnal gweithdy Darganfyddwch Archaeoleg, gyda’r cyfle i gwrdd ag archaeolegwyr, dysgu am archaeoleg yn y Parc Cenedlaethol, trin rhai eitemau sydd wedi cael eu darganfod a dysgu beth i’w wneud os byddwch chi’n darganfod rhywbeth diddorol. Am ffi ychwanegol o £5, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cloddio eu hunain gyda gweithgarwch Profwch Archaeoleg ymarferol.

Bydd Castell Caeriw hefyd yn cynnal digwyddiad Gŵyl Archaeoleg Prydain ddydd Llun 24 Gorffennaf. Mae Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Gorffennol wedi cael ei drefnu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, a hefyd bydd nifer o amgueddfeydd lleol eraill a grwpiau hanes yn ymuno i ddarparu amrywiaeth eang o sgyrsiau, arddangosfeydd a gweithgareddau archaeoleg ymarferol ar gyfer ymwelwyr o bob oed.

Mae pythefnos Gŵyl Archaeoleg Prydain yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu archaeoleg Prydain ac yn cael ei drefnu gan y Cyngor Archaeoleg Brydeinig. Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sy’n digwydd ar draws y DU, yn bersonol ac ar-lein, ewch i www.archaeologyuk.org/festival.

Gallwch ddod o hyd i amserlen lawn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o ddigwyddiadau’r haf yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.