Bydd arddangosfa newydd Oriel y Parc yn eich ysbrydoli i ddarganfod y rhyfeddodau sydd Ar Eich Stepen Drws

Cyhoeddywd : 01/04/2022

Pan fyddwch chi’n gweld arddangosfeydd mewn amgueddfa fel arfer, gellir tybio eu bod wedi cael eu darganfod gan arbenigwyr mewn mannau anghysbell, ond mae arddangosfa newydd yn Sir Benfro yn tynnu sylw at sut gall pawb wneud darganfyddiadau rhyfeddol yn nes at adref.

Wedi’i churadu gan Amgueddfa Cymru a’i chynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, nod Ar Eich Stepen Drws yw ysbrydoli pawb i archwilio’r natur, daeareg ac archeoleg sy’n bodoli o’n cwmpas, a mwynhau’r manteision iechyd a lles y gall hyn eu cynnig.

Mae’r arddangosfa, sy’n agor ar 1 Ebrill, yn cynnwys darganfyddiadau gwych a ffeithiau difyr am ddarganfyddiadau o bob rhan o Sir Benfro, sy’n amrywio o geiniogau a gemwaith i’r falwen sgalaraidd gyntaf i gael ei gweld yng Nghymru.

Bydd yr oriel hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beth i gadw llygad amdano pan fyddwch chi’n archwilio Arfordir Sir Benfro neu ble bynnag rydych chi’n crwydro, a sut mae cofnodi ac ymchwilio i’ch canfyddiadau, gan gynnwys cyngor ar sut mae dechrau eich casgliad eich hun yn gyfrifol.

Image of an exhibition in an art gallery including various natural history finds and a decal that reads 'On Your Doorstep'

Dywedodd Ulrike Smalley, Rheolwr Arddangosfeydd – Cymuned a Theithiau Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni’n falch o’n hymrwymiad i sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol ar gael mor eang â phosib, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl leol yn yr ardal, drwy ddangos y darganfyddiadau cyffrous hyn o Sir Benfro, yn cael eu hannog i fynd allan a darganfod y byd o’u cwmpas.”

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymwelwyr, Cymunedol a Chefn Gwlad Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Yn dilyn anawsterau’r blynyddoedd diwethaf, rydym i gyd wedi tyfu i werthfawrogi’r trysorau ‘ar ein stepen drws’ ychydig yn fwy. Mae’r arddangosfa newydd gyffrous hon, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, yn ein hatgoffa o’r rôl hanfodol y mae natur a diwylliant lleol yn eu chwarae wrth gefnogi ein llesiant.

“Yn ogystal, gyda chyfyngiadau Covid-19 yn dechrau codi, mae mwy ohonom yn cael cyfle i archwilio arfordir ysblennydd Sir Benfro ac mae’r arddangosfa’n ein hatgoffa i droedio’n ysgafn a ‘gwneud y pethau bychain’ er mwyn coleddu, gwarchod a gwella’r pethau sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn lle mor arbennig i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.”

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, ac yn eu rheoli, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Bydd Ar Eich Stepen Drws ar agor o 10am-4pm bob dydd o ddydd Gwener 1 Ebrill 2022 tan Gwanwyn 2023. Mae mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa ac i ddod o hyd i adnoddau i’ch helpu i fynd ar eich taith ddarganfod eich hun, ewch i’r tudalen Ar Eich Stepen Drws.