Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn galw ar y cyhoedd i ddilyn canllawiau

Cyhoeddwyd : 30/12/2020

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru ’yn galw ar y cyhoedd i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru dros wyliau’r Nadolig ac i ddangos amynedd parhaus trwy aros adref ac aros yn ddiogel.

Tra bod Cymru yn parhau i fod dan glo, mae’n amlwg bod rhai pobl yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio ymweld â mannau harddwch poblogaidd y Parc Cenedlaethol, gan roi eu hunain a chymunedau gwledig bregus y Parc mewn mwy o berygl.

Mae Awdurdodau’r Parciau yn atgoffa holl drigolion y DU i gofio bod Cymru ar glo gyda dim ond teithio hanfodol yn cael ei ganiatáu, felly ni all pobl yrru i ymweld ag unrhyw un o Barciau Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro:

“Nid oes amheuaeth bod y rhain yn amseroedd heriol ond mae ein holl ddiogelwch yn dibynnu ar bobl yn parchu’r rheolau ac yn gwneud y peth iawn. Ar hyn o bryd mae hyn yn golygu aros gartref i gadw’n ddiogel a gwneud ymarfer corff o’n stepen drws yn unig. Os na, mae pryder gwirioneddol y bydd ein gwasanaethau iechyd gwledig yn wynebu pwysau cynyddol ac ni fydd mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

“Rydym yn deall y rôl hanfodol y mae ein Parciau Cenedlaethol wedi’i chwarae eleni wrth gefnogi iechyd a lles pobl, a faint mae pobl wedi elwa o fynediad i’r awyr agored. Daw’r amser eto pan allwn i gyd fwynhau harddwch ac amrywiaeth ein Parciau, ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu yn ôl pan fydd yr amser hwnnw’n iawn ac mae’n ddiogel i chi ac yn ddiogel i’n cymunedau.”

Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau’r Parc Cenedlaethol i’w gweld yma:

Eryri: https://www.eryri.llyw.cymru/coronavirus

Bannau Brycheiniog: https://www.beacons-npa.gov.uk/

Arfordir Penfro: https://www.arfordirpenfro.cymru