Awdurdod y Parc yn cefnogi nofio ar Ŵyl San Steffan

Posted On : 08/12/2021

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch iawn o fod yn un o brif noddwyr Nofio ar Ŵyl San Steffan yn Ninbych-y-pysgod eleni.

Bydd y digwyddiad poblogaidd, a gafodd ei ganslo’r llynedd oherwydd y pandemig Covid, yn dychwelyd gyda sblash ddiwedd mis Rhagfyr i ddathlu ei hanner canmlwyddiant.

Mae noddwyr eraill yn cynnwys Outer Reef, Harbour Wealth Management, Princes Gate Spring Water a N.D. Toy & Partners.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’n anrhydedd cefnogi digwyddiad codi arian Nadoligaidd Dinbych-y-pysgod wrth iddo ddathlu ei hanner canmlwyddiant – a hynny ychydig o fisoedd cyn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.

“Mae Nofio ar Ŵyl San Steffan yn ffefryn mawr gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn ogystal â chodi miloedd ar gyfer achosion da, mae wedi dod yn ddigwydiad sy’n uchafbwynt go iawn i dymor y gaeaf.”

Bydd y digwyddiad eleni wedi ei symleiddio ac yn dilyn thema Aur, gan ganolbwyntio ar y Nofio yn unig. Yn lle medalau a’r casglwyr bwced traddodiadol, gofynnir i nofwyr gofrestru ar-lein yn www.tenbyboxingdayswim.co.uk/buy-tickets/ a thalu ffi fach i gymryd rhan. Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael tystysgrif i nodi eu bod wedi cymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn. Bydd yr holl arian a godir trwy ffioedd yn cael ei rannu rhwng Sefydliad Dai Rees, Tenby Memory Cafe, ac RNLI Dinbych-y-pysgod.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.tenbyboxingdayswim.co.uk neu dilynwch Tenby Boxing Day Swim ar Facebook, Instagram neuTwitter.