Awdurdod y Parc yn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw wrth i’r gwyliau ysgol ddechrau

Cyhoeddwyd : 20/07/2023

Mae pobl yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw os ydyn nhw’n bwriadu ymweld â thraethau ac atyniadau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yr haf yma.

Yn ogystal ag atgoffa pobl o’r camau y gallan nhw eu cymryd i sicrhau eu bod yn mwynhau eu hymweliad, mae’r Awdurdod yn tynnu sylw at newidiadau diweddar mewn lleoliadau penodol ac yn cynghori ymwelwyr â’r Parc i gadarnhau’r trefniadau cyn teithio.

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Wrth i ni baratoi i groesawu pobl i’r gornel brydferth hon o Gymru, rydyn ni’n rhoi rhywfaint o gyngor i sicrhau bod pawb yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfnod ar Arfordir Penfro yr haf yma.

“Mae’r blynyddoedd yn dilyn pandemig Covid-19 wedi rhoi pwysau ychwanegol ar leoliadau a oedd eisoes yn boblogaidd dros ben yn ystod misoedd yr haf, felly rydyn ni’n annog pobl i gynllunio ymlaen llaw a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw gynllun wrth gefn rhag ofn bod y gyrchfan roedd ganddyn nhw mewn golwg yn rhy brysur.

“Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddigon o drysorau cudd sy’n aros i gael eu darganfod oddi wrth y ‘mannau mwyaf poblogaidd’, o gildraethau tawel i fryniau braf a dyfrffyrdd a dyffrynnoedd ‘cudd’.”

Mae nifer o newidiadau wedi cael eu cyflwyno o amgylch y sir ar gyfer tymor 2023, gan gynnwys cyfyngiadau parcio ar Draeth Mawr. Ni chaiff cerbydau barcio ar y traeth nawr ond bydd cerddwyr, pobl sy’n defnyddio cadair olwyn a’r rheini sy’n lansio cychod bach â llaw yn dal i allu mynd i’r traeth ar hyd y ddwy lithrfa.

Bydd gwasanaethau bysiau Fflecsi yn cymryd lle gwasanaethau bysiau Gwennol Strymbl a’r Pâl Gwibio’r tymor yma. Rhaid archebu tocynnau Fflecsi ymlaen llaw, naill ai drwy’r ap, sydd ar gael i’w lwytho i lawr o wefan Fflecsi Sir Benfro (agor mewn ffenestr newydd) neu drwy ffonio 0300 234 0300 yn ystod yr oriau agor.

Mae’r Awdurdod hefyd yn cynghori pobl i ddefnyddio traethau lle mae achubwyr bywydau a phacio picnic gan mai dyma’r ffordd fwyaf diogel o fwyta ar y traeth, a pheidio â defnyddio barbeciws ar draethau gan eu bod yn gallu arwain yn ddamweiniol at gynnau tanau glaswellt.

Dylai perchnogion cŵn sicrhau eu bod yn parchu’r cyfyngiadau ar draethau lleol a chadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn ar hyd Llwybr yr Arfordir, yn ogystal ag o gwmpas da byw er mwyn osgoi unrhyw ddigwyddiadau diangen.

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn llawn cyngor ychwanegol a fydd yn cadw pawb yn ddiogel yr haf yma, gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer gweithgareddau fel pysgota a chanŵio. Mae’r Cod Cefn Gwlad ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (agor mewn ffenestr newydd).

I gael help i gynllunio eich taith i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, codwch gopi o Coast to Coast neu tarwch olwg ar ein tudalen ‘Cynlliniwch eich ymweliad’.