Awdurdod y Parc yn annog pobl i fod yn eithriadol o ofalus yn dilyn tanau gwyllt

Posted On : 20/07/2022

Yn dilyn nifer o danau glaswellt yn y sir dros y dyddiau diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog aelodau o’r cyhoedd i beidio â chynnau tân ac i fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio barbeciws.

Mae staff o’r Awdurdod bellach wedi gosod arwyddion mewn lleoliadau allweddol i rybuddio pobl am beryglon tân.

Dywedodd Parcmon Awdurdod y Parc a’r Ymladdwr Tân rhan-amser, Richard Vaughan: “Rydyn ni’n annog pawb i fod yn hynod ofalus yn ystod y cyfnod hwn o dywydd sych a phoeth ac i fod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt.

“Os ydych chi’n bwriadu gwneud barbeciw, rhaid i chi sicrhau bod y barbeciw yn cael ei osod ar arwyneb gwastad ac anllosgadwy, ymhell oddi wrth goed, llwyni a deunyddiau llosgadwy eraill. Mae hefyd yn hanfodol bod barbeciws yn cael eu diffodd gyda dŵr oer a bod yr holl sbwriel yn cael ei waredu’n iawn.

“Gyda mwy o bobl yn mynd i fwynhau golygfeydd godidog Sir Benfro dros yr wythnosau nesaf, mae’n bwysig cofio, mewn amgylchiadau poeth a sych fel hyn, y gall hyd yn oed hen sigarét neu botel wydr gynnau tân dinistriol.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi llunio canllaw defnyddiol ar leihau’r risg o dân mewn mannau awyr agored, ac mae ar gael yn www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/eich-gardd-ar-awyr-agored/.

A discarded barbecue near vegetation