Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cefnogi addysgwyr yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2020

Cyhoeddwyd : 04/11/2020

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn nodi Wythnos Hinsawdd Cymru drwy rannu cyfres o adnoddau digidol ag addysgwyr ar themâu Deall Newid yn yr Hinsawdd, Addasu a Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru wedi cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cynnwys cyfres o gynadleddau digidol a digwyddiadau rhithiol am ddim rhwng 2 Tachwedd a 6 Tachwedd. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys siaradwyr gwadd o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus. Byddant yn rhannu eu harbenigedd ac yn rhoi enghreifftiau ymarferol o sut gall unigolion a sefydliadau helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng newid hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030 a chyfrannu at dargedau ehangach i leihau allyriadau carbon. Mewn ymateb i hyn, roedd yr Awdurdod wedi cyhoeddi adroddiad y llynedd a oedd yn rhoi manylion y camau a oedd wrthi’n cael eu cymryd ac ar fin cael eu cymryd, yn ogystal â meysydd posibl eraill y gellid eu datblygu.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Hyd yma, mae’r gwaith yn yr Awdurdod i gyrraedd ei darged wedi bod yn cael ei wneud mewn amrywiaeth eang o feysydd, o bolisi cynllunio a thrafnidiaeth i ailgylchu a chaffael. Mae hyn yn cynnwys symud tuag at fflyd o geir a faniau sydd ag allyriadau isel, gan gynnwys defnyddio cerbydau trydan; gwneud adeiladau’r cyngor yn fwy gwyrdd a gosod pwyntiau cerbydau trydan mewn safleoedd sy’n cael eu rhedeg gan yr Awdurdod; a newid ffocws y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i flaenoriaethu prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned i gyfrannu at ostwng carbon.”

Photovoltaic panels on the roof of Llanion Park, Pembroke Dock

Mae prosiectau parhaus eraill sydd wedi’u dylunio i storio carbon yn well drwy’r Parc yn cynnwys yr ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd, y cynllun Ffiniau Traddodiadol a’r prosiect Llwybrau, Planhigion a Pheillwyr, sydd eisoes wedi cwblhau cynllun peilot llwyddiannus ar hyd darn o Lwybr yr Arfordir rhwng Niwgwl ac Abereiddi.

Mae Pwyllgor Ieuenctid y Parc Cenedlaethol sydd newydd gael ei greu hefyd yn cymryd rhan yn ymgyrch OutRight 2020 UNICEF, sy’n canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd ar hawliau plant.

Dilynwch y ddolen i lawrlwytho cynllun gweithredu Awdurdod y Parc Ymateb i’r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd.

I weld amserlen lawn digwyddiadau ewch i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru.

Mae dolenni ac adnoddau i addysgwyr, gan gynnwys deunyddiau sy’n benodol ar gyfer sir Benfro o brosiect Cymunedau Arfordirol yn Addasu gyda’i Gilydd (CCAT) Fforwm Arfordir Sir Benfro, ar gael ar dudalen Facebook Your Park yr Awdurdod a drwy ddilyn @PCNPAEducation ar Trydar.