Atsain cyfarth yng Nghastell Caeriw

Posted On : 05/09/2022

Mae un o atyniadau mwyaf poblogaidd Sir Benfro sy’n croesawu cŵn yn edrych ymlaen at y digwyddiad poblogaidd hwn.

Cynhelir Diwrnod Allan i Gŵn Castell Caeriw ddydd Sadwrn 10 Medi, gan ddenu llwyth o gŵn a’u perchnogion balch i safle Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd y sioe hwyliog i gŵn, lle bydd cyfle iddynt ennill gwobrau blasus gan noddwr y digwyddiad, Burns Pet Nutrition. Cânt hefyd y cyfle i brofi eu galluoedd ar y cwrs rwystrau neu’r ras i gŵn.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Mae’r diwrnod yn argoeli i fod yn un pleserus i’n cyfeillion blewog a’r rheini sy’n gwirioni ar gŵn, a bydd gweithgareddau a digwyddiadau ar gael i bawb i’w mwynhau.

“Mae Castell Caeriw yn addas i gŵn drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r Diwrnod Allan i Gŵn yn gyfle unigryw i ddathlu ein perthynas arbennig â’n cyfeillion blewog mewn digwyddiad sydd wedi’i drefnu’n arbennig ar eu cyfer.”

Drwy gydol y dydd, bydd stondinau’n gwerthu danteithion i gŵn (a phobl hefyd!). Bydd cyfle hefyd i fynd am dro hamddenol o amgylch Llyn y Felin a mwynhau’r ‘llwybr tebyg at ei debyg’ hwyliog ar hyd y ffordd.

Bydd Diwrnod Allan i Gŵn Caeriw yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 10 Medi. Codir tâl mynediad arferol ar gyfer y Castell a thâl bychan ychwanegol am rai gweithgareddau.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn a digwyddiadau eraill yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, yn ogystal ag amseroedd agor a phrisiau mynediad, ffoniwch 01646 651782 neu ewch i www.castellcaeriw.com.

A prize-winning dog at Carew Castle with owner and Castle staff.