Anghofiwch y barbeciws tafladwy: rhybudd ynglŷn â’r tywydd poeth gan Barciau Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd : 11/08/2022

Mae disgwyl i’r tymheredd daro 32C mewn rhannau o Gymru yr wythnos hon, wrth i gyfnod arall o dywydd poeth ddod i’r DU — gan achosi pryder gan Barciau Cenedlaethol Cymru, ar ôl misoedd o ddiffyg glaw.

Er y bydd y tymheredd yn is na’r 37C a welwyd yn torri record fis diwethaf, mae mynegai difrifoldeb tân y Swyddfa Dywydd, sef asesiad o ba mor ddifrifol y gallai tân fod pe bai un yn dechrau, yn darogan ‘Uchel’ neu ‘Uchel iawn’ am bob un o’r tri o Barciau Cenedlaethol Cymru y penwythnos hwn.

Mewn ymateb, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri — a elwir ar y cyd yn Barciau Cenedlaethol Cymru — yn gofyn i ymwelwyr osgoi defnyddio barbeciws tafladwy yr wythnos hon a thu hwnt.

Dywed Judith Harvey, Warden-Reolwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae tywydd yr haf yn esgus mawr dros archwilio Parciau Cenedlaethol Cymru — ond wrth i’r wlad wynebu cyfnod poeth arall, gofynnwn i’n hymwelwyr ddod â phicnic yn lle barbeciws tafladwy.

“Mae barbeciws tafladwy yn peri risg bob dydd i’r tirweddau naturiol a’r bywyd gwyllt ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, ond mae amodau crasboeth ein mynyddoedd a’n coedwigoedd yn gwneud cyfarpar coginio awyr agored hyd yn oed yn fwy peryglus. Diolch ymlaen llaw i bob un ymwelydd sy’n osgoi dod ag un ar eu hymweliad nesaf ag awyr agored Cymru.”

Daw’r cais wedi i dân 100 troedfedd gymryd dros bum awr i’w ddiffodd gan ddiffoddwyr tân yn ardal Aberhonddu yr wythnos ddiwethaf — gydag amodau crasboeth yn achosi i 150 o fyrnau gwair fynd ar dân.

Dywedodd Richie Vaughan-Williams, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Mae’n gyfrifoldeb ar bawb i warchod ein hardaloedd gwledig rhag tanau gwyllt. Mae nifer o’r tanau wedi’u cynnau’n fwriadol, ond mae rhai’n digwydd drwy esgeulustod neu ddiflastod. Mae hyn yn rhwystredig pan all ein criwiau tân gael eu cadw am oriau mewn amodau anodd yn ceisio atal difrod, gan olygu eu bod nhw wedyn weithiau yn cael eu hatal rhag mynd i argyfyngau eraill. Byddwn yn annog pawb i ystyried eu gweithredoedd wrth fwynhau cefn gwlad ac osgoi cynnau tanau o gwbl.

“Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein cymunedau, i sicrhau diogelwch ein teuluoedd a’n ffrindiau, cymdogion, aelodau’r cyhoedd a’n Gwasanaethau Brys. Mae tanau glaswellt yn lleihau ansawdd aer yn ogystal â thynnu gwasanaethau brys gwerthfawr i ffwrdd o ddigwyddiadau achub bywyd, felly rydyn ni’n apelio ar bawb i’n helpu ni i’w helpu nhw.”

Dywedodd Parcmon Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Diffoddwr Tân rhan-amser, Richard Vaughan:

“Yn dilyn y flwyddyn sychaf oddi ar 1976 a thymheredd sy’n torri record, rydyn ni’n wynebu amodau bron i sychder yng ngorllewin Cymru a allai, gyda barbeciws nad ydyn nhw’n cael eu gwaredu’n briodol, brofi’n drychinebus mewn ardaloedd gwledig.

“Gyda disgwyl i fwy o bobl ddod i fwynhau golygfeydd gwych Sir Benfro dros yr wythnosau nesaf, mae’n bwysig cofio, mewn amodau poeth a sych fel hyn, y gall hyd yn oed sigarét neu botel wydr ddechrau tân dinistriol.”

Adam Daniel, Pennaeth Wardeinio a Mynediad o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae’r perygl real iawn o farbeciws tafladwy yn peri pryder — ond nid dyna’r unig bryder rydyn ni’n ei wynebu. Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd mewn tanau o ganlyniad i wersylla gwyllt — sydd yr un mor beryglus, os nad yn fwy peryglus, na barbeciws tafladwy. Ac mae hynny heb sôn am beryglon dillad amhriodol neu gynllunio gwael wrth archwilio Parciau Cenedlaethol Cymru mewn tywydd poeth.

“Diolchwn i’n holl ymwelwyr sy’n pacio’n gyfrifol ar gyfer eu gweithgareddau awyr agored yr haf hwn — gan wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys hanfodion yr haf, o hufen SPF i hetiau haul a digonedd o ddŵr. Mae hefyd yn syniad da i wirio amodau’r tywydd cyn teithio a gofyn i chi’ch hun a yw taith gerdded yn syniad da. Gall dioddef rhywbeth fel trawiad gwres fod yn berygl i fywyd, gan roi straen mawr ar ein timau achub mynydd.”

Tueddiadau eraill a fu ar gynnydd yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yw taflu sbwriel ac offer gwersylla; campyr-fanio anghyfreithlon, a chŵn yn poeni defaid — ac mae pob un o’r rhain wedi bod ar gynnydd ochr yn ochr â mwy o ymwelwyr yn chwilio am ddiangfeydd awyr agored yn ystod ac wedi’r pandemig. Yn ôl Parciau Cenedlaethol Cymru, mae llawer o’r ymwelwyr hyn yn gynulleidfaoedd newydd, sy’n anghyfarwydd â chanllawiau’r Cod Cefn Gwlad.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi lansio’r ymgyrch “Diolch” — sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r Cod Cefn Gwlad ehangach. Ochr yn ochr â chanllawiau heddiw ar farbeciws tafladwy, bydd yr ymgyrch yn ymdrechu i addysgu darpar ymwelwyr ar bopeth o gerdded cŵn yn gyfrifol i reolau ynghylch gwersylla gwyllt a hyd yn oed moesau parcio.

Am fwy o wybodaeth am y Cod Cefn Gwlad ac am arweiniad gan Barciau Cenedlaethol Cymru, ewch i wefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.