Adeiladau Awdurdod y Parc yn troi’n felyn er cof am ddioddefwyr Covid-19

Cyhoeddwyd : 23/03/2021

Cafodd adeiladau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eu goleuo heno i gofio am y rheini sydd wedi colli eu bywydau oherwydd Covid-19 a phob un y mae’r pandemig byd-eang wedi effeithio arno.

Cafodd pencadlys yr Awdurdod yn Noc Penfro, Oriel y Parc yn Nhyddewi a Chastell Caeriw eu goleuo’n felyn fel rhan o’r digwyddiad Goleuo Cymru i gofio i nodi blwyddyn ers dechrau cyfnod clo cyntaf y DU.

Mae calonnau melyn wedi dod yn symbol o gofio yn ystod pandemig y Coronafeirws. Bydd cartrefi ac adeiladau cyhoeddus ar draws y wlad yn ymuno yn y digwyddiad coffa cenedlaethol ar 23 Mawrth, a bydd staff yr Awdurdod yn cymryd rhan mewn munud o dawelwch am hanner dydd.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc:

“Er bod nifer enfawr y marwolaethau coronafeirws ledled y byd yn gallu bod yn anodd eu deall yn iawn weithiau, dylem gofio bod dros 450 o bobl wedi colli eu bywydau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unig.

“Rydym ni hefyd yn cydymdeimlo â’r rheini sy’n dal i wella o effeithiau Covid-19, neu sy’n byw gydag effeithiau dilynol y pandemig.

“Hoffwn hefyd ddiolch ar ran yr Awdurdod i’r rheini sydd wedi bod yn gweithio i gadw pawb yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn ac sy’n parhau i wneud hynny, yn ogystal â’r rheini sydd wedi cefnogi’r gweithwyr hyn drwy aros gartref a dilyn y rheolau i helpu i leihau lledaeniad Covid-19.

“Mae pawb wedi aberthu llawer dros y flwyddyn ddiwethaf, ac roeddem yn teimlo bod angen nodi’r flwyddyn hon drwy ymuno â’r genedl i fyfyrio wrth i ni ddechrau edrych yn ofalus tuag at y golau ym mhen draw’r twnnel.”

Mae’r digwyddiad Goleuo Cymru i gofio wedi cael ei hyrwyddo gan grŵp Facebook Covid19 Families-Wales, sydd wedi cael ei sefydlu i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol am y Coronafeirws, ewch i’n tudalen Coronafeirws.