Adroddiad Ymgynghoriad – Canllawiau Cynllunio Atodol

Adroddiad Ymgynghoriad ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Cynllun Datblygu Lleol 2 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro/Cynllun Datblygu Lleol 1 Cyngor Sir Penfro.

Mae’r dogfennau canllaw yr ymgynghorwyd arnynt wedi’u rhestru isod. Roedd dwy ohonynt yn ddogfennau canllaw ar y cyd rhwng Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

 

Archaeoleg Ar y cyd
Bioamrywiaeth Ar y cyd
Datblygiadau Cabanau Gwyliau, Carafanau a Gwersylla Y Parc Cenedlaethol yn unig
Safonau Parcio Y Parc Cenedlaethol yn unig
Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a Thai Fforddiadwy Y Parc Cenedlaethol yn unig
Ynni Adnewyddadwy Y Parc Cenedlaethol yn unig
Dylunio a Datblygu Cynaliadwy Y Parc Cenedlaethol yn unig

Mae’r dogfennau canllaw ar y cyd ar Archaeoleg a Bioamrywiaeth yn berthnasol i Sir Benfro gyfan. Mae’r gweddill yn berthnasol i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn unig.

Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau ym mis Hydref 2020, a daeth i ben ar 12 Chwefror 2021. Cyhoeddwyd hysbysiad ffurfiol yn y Western Telegraph a’r Pembrokeshire Herald i roi gwybod am yr
ymgynghoriad ac anfonwyd datganiad i’r wasg yn cyhoeddi’r ymgynghoriad at bapurau newydd a gorsafoedd radio lleol. Roedd copïau ar gael ar ein gwefan. Roedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer pob dogfen yn para tri mis, hyd at 4.30pm ar 12 Chwefror 2021. Rhoddwyd nodyn i atgoffa am y dyddiad cau ar gyfer sylwadau wrth iddo agosáu, mewn datganiad i’r wasg ganol mis Ionawr 2021.

Anfonwyd naill ai neges e-bost neu lythyr ymgynghori at yr ymgyngoreion ar gronfa ddata’r Cynllun Datblygu Lleol.

Cydnabuwyd pob ymateb, ac mae pob ymateb ar gael i’r cyhoedd – gweler y dolenni gwe isod.

Cyflwynwyd ymatebion y swyddogion i’r ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei gyfarfod ar 5 Mai 2021 ac i Gyfarfod Cabinet y Cyngor Sir ar 17 Mai 2021.

Dilynwch y ddolen i weld adroddiad o ymatebion y swyddogion i’r canllawiau cynllunio atodol neu fel arall gallwch weld Agenda Cabinet Cyngor Sir Penfro ar 17 Mai 2021.

Cytunodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ddiwygio’r canllawiau yn unol ag argymhellion y swyddog, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn amodol ar y canlynol:

  • Ychwanegu testun esboniadol ychwanegol at ymatebion y Swyddog sy’n gwneud sylwadau ar swyddogaeth y canllawiau cynllunio atodol: Testun ychwanegol: ‘Gall Canllawiau Cynllunio Atodol:
    • Ddarparu canllawiau pwysig i ehangu ar bolisi sy’n seiliedig ar bwnc er mwyn helpu i weithredu’r CDLl
    • Nodi canllawiau/trothwyon manylder a rhifiadol lle y gallant newid, er mwyn sicrhau nad yw’r CDLl yn dyddio’n gyflym ac er mwyn hwyluso hyblygrwydd (e.e. safonau parcio ceir)
    • Darparu canllawiau manwl ychwanegol ar y math o ddatblygiad a ddisgwylir mewn ardal a ddynodir ar gyfer ei ddatblygu yn y CDLl. Gallai hyn fod ar ffurf briff datblygu neu brif gynllun manylach.’
  • Ychwanegu testun ychwanegol at ymateb y Swyddog ar Sylw Rhif 4. ‘Mae Cynllun Datblygu Lleol 2 hefyd yn cynnwys Polisi 13 Datblygiadau mewn Ardaloedd Sensitif o ran y Gymraeg.’
  • Golygu: ’23. Gwella mynediad cerddwyr o safleoedd i fannau o ddiddordeb gan ddefnyddio manylion cynnil a phriodol ar gamfeydd a gatiau.’ o’r ‘Canllawiau Lliniaru a Gwella’ yn y ‘Canllawiau Carafanau, Gwersylla a Chabanau Gwyliau’ i bwysleisio’r angen i archwilio cyfleoedd fel a ddisgrifir isod:
    ‘Gwella mynediad teithio llesol o safleoedd i annog cysylltiadau â’r rhwydwaith llwybrau presennol a mannau o ddiddordeb gan ddefnyddio manylion cynnil a phriodol o ran camfeydd a gatiau.’

Mae’r Canllawiau a fabwysiadwyd wedi cael eu llwytho i fyny i wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ein tudalen Canllawiau Cynllunio Atodol (CDLl2)

Cytunodd cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro i ddiwygio’r canllawiau yn unol ag argymhellion y swyddog, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad ac ar dudalen CDLl Canllawiau Cynllunio Atodol ar wefan y Cyngor Sir Penfro.