Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy 4/11/20

Dyddiad y Cyfarfod : 04/11/2020

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Cynghorydd M James

2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Neb

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Mai 2020.

6. Cytuno ar y Cylch Gorchwyl diwygiedig

7. Cytuno ar rôl Aelodau Cynghorol y Pwyllgor a’r broses ar gyfer eu recriwtio.

8. Cytuno ar y Templed Sgorio

9. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

10. Ystyried adroddiad y Swyddog Cyllid a Grantiau ar y ceisiadau a ganlyn:

SDF/112020/1 – Dyfodol Cynaliadwy i Theatr Gwaun
Mae Theatr Gwaun yn gyfuniad o theatr, sinema a chanolfan ar gyfer digwyddiadau. Mae’r defnydd a wna’r theatr o drydan yn uchel oherwydd mae angen rhedeg taflunydd digidol (24 awr y dydd), rhewgelloedd, oergelloedd, goleuadau a gwresogi dŵr, sy’n cyfateb i oddeutu £5,000 y flwyddyn.

Mae’r Grŵp (elusen gofrestredig) wedi ymrwymo i leihau’r defnydd o ynni ac maent eisoes yn y broses o osod goleuadau LED yn lle’r goleuadau halogen presennol, a gosod rhewgelloedd ac oergelloedd modern sy’n effeithlon o ran ynni yn lle’r hen rai. Er mwyn lleihau eu defnydd o ynni ymhellach, maent yn chwilio am arian i osod 20kW o baneli solar ar do’r theatr sy’n wynebu’r de; dylai hynny gynhyrchu trydan gwerth £2,000 y flwyddyn. Bydd unrhyw ynni sydd dros ben yn cael ei werthu yn ôl i’r cyflenwr lleol ar gyfradd o 5c y kWh gan ddefnyddio cynllun Gwarant Allforio Clyfar y Llywodraeth.

SDF/112020/2 – Neuadd Bentref Marloes a Sain Ffraid – Gwella Ein System Paneli Solar

Mae Pwyllgor y Neuadd wedi cael grant i osod System Solar PV ar gyfer y neuadd. Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau ym mis Tachwedd eleni.  Diben y cyllid SDF yw prynu a gosod System Batri i ategu’r PV.

Dyluniwyd y gosodiad PV eisoes i helpu i ddarparu neuadd bentref gynnes, sych a niwtral o ran carbon; mae’n cynnwys pâr o stôr-wresogyddion y gellir dargyfeirio pŵer iddynt yn ystod y dydd, yn hytrach na’i allforio i’r grid. Bydd ychwanegu batri nid yn unig yn rhoi’r opsiwn o storio unrhyw bŵer PV sy’n weddill fel trydan i’w ddefnyddio yn ystod digwyddiadau gyda’r nos; yn ystod misoedd y gaeaf gellir ail-wefru’r batri gyda’r nos pan fydd trydan y grid yn rhad ac fel arfer mae gwarged o gynhyrchu adnewyddadwy. Bydd hyn yn arwain at leihau costau rhedeg y neuadd, lleihau ôl troed carbon cymunedol, a helpu i sefydlogi’r grid.  Mae cynhesu’r neuadd yn un o’r costau blynyddol mawr.

SDF/112020/3 – Gwaith Effeithlonrwydd Pembrokeshire Mencap Ltd 2020

Mae’r prosiect wedi’i rannu’n 4 eitem,

1 –  Cyflenwi dŵr i’r pwll.  Mae pwll bach wedi’i greu i ddarparu cynefin amrywiol. Mae tanc casglu dŵr glaw yn bodoli eisoes ond mae angen gosod pibellau i gysylltu’r tanc â’r pwll, er mwyn ailgyflenwi’r pwll â dŵr glaw a gasglwyd o do’r ganolfan. Darparu amgylchedd gwell ar gyfer bywyd y pwll a hefyd osgoi defnyddio dŵr y prif gyflenwad wedi’i ddad-glorineiddio, a thrwy hynny leihau’r defnydd o ddŵr.

2.   Gwella’r deunydd insiwleiddio i bibellau dŵr poeth yn y Ganolfan, a thrwy hynny leihau colli gwres a’r defnydd o bŵer a lleihau’r ôl troed carbon cysylltiedig.

3.   Gosod rheolydd UV ar y gilfach i’r wrinal yn nhoiled y dynion. Mae yna nifer o reolaethau ar gael ar y farchnad, ond oherwydd y system blymio mae angen rheolydd UV y gellir ei bweru gan fatri.  Manteision hyn fydd gostyngiad yn y defnydd o ddŵr ac o ganlyniad biliau dŵr is.

4.   Gofynnir am arian ar gyfer uned ynni’r haul yn yr ymolchfan, lle gall myfyrwyr a staff olchi offer a dwylo ar ôl gweithio yn y gerddi. Bydd hyn yn lleihau’r defnydd o drydan i wresogi dŵr a thrwy hynny leihau carbon.

SDF/112020/4 – Ynysoedd Cynaliadwy Sir Benfro
Mae’r cais  hwn am gyllid ar gyfer gwelliannau i system ddŵr y goleudy (Skokholm), system sterileiddio UV a phaneli solar ac uwchraddio system (Skomer).

Mae’r goleudy ar Skokholm yn lletya staff a gwirfoddolwyr.  Mae’r llety ar yr ynys yn sylfaenol.  Mae dŵr yfed diogel, dŵr poeth ac ychydig o bŵer yn hanfodol.  Ar hyn o bryd nid oes dŵr poeth ac felly rhaid berwi dŵr ar ffwrn nwy pan fydd ei angen. Mae paneli dŵr poeth solar yn bodoli eisoes sydd mewn cyflwr da ond mae angen pwmp a phibellau newydd i’w gwneud i weithio eto.

Mae Skomer North Haven yn lletya staff, gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr – hyd at 8 unigolyn ar unrhyw un adeg ond llawer mwy dros gyfnod o dymor. Mae’r adeilad yn derbyn dŵr yfed o ffynnon ond mae’r dŵr hwn yn methu profion dŵr blynyddol Cyngor Sir Penfro, felly rhaid i’r holl breswylwyr ferwi’r dŵr cyn ei yfed. Mae hyn yn arwain at ddefnydd uchel o nwy propan potel ac mae’n rhaid io gwch yr ynys (gydag injan betrol) wneud nifer o deithiau i’r tir mawr bob blwyddyn i gasglu’r nwy sydd ei angen.

Bach iawn o gyflenwad pŵer sydd ar Skomer ac mae’n cael ei reoli’n ofalus. Mae araeau PV yn gwasanaethu’r holl adeiladau, ond mae’r paneli a’r storfeydd batri dros 15 oed ac yn aneffeithlon. Pan fydd pŵer a gynhyrchir gan yr haul yn rhedeg yn isel yr unig ddewis arall yw generadur diesel wrth gefn. Ein nod yw gwneud y system casglu a storio solar mor effeithlon â phosibl i gwtogi amser rhedeg y generaduron.

SDF/112020/5 – Cynllun treialu ffermydd gwymon a physgod cregyn cyntaf Cymru
Sefydlu’r ffermydd adferol cyntaf yng Nghymru i dreialu cynhyrchu gwymon a physgod cregyn yn y môr.

Mae gan y sefydliad (cymdeithas budd cymunedol) drwyddedau 5 mlynedd ar gyfer 2 fferm dreialu yn Swnt Dewi. Mae’r ffermydd treialu wedi’u cynllunio i nodi’r rhywogaethau a’r arferion ffermio gorau posibl yn Sir Benfro.

Bydd y llinellau gwymon wedi’u hadu a’r wystrys brodorol cyntaf yn cael eu defnyddio ym mis Tachwedd 2020.

Mae’r prosiect 18 mis hwn angen cyllid i fonitro perfformiad y stoc a ffactorau amgylcheddol yn y ffermydd hyn (Rhagfyr 2020 – Mehefin 2022), fel y gellir symleiddio’r broses gydsynio ar gyfer ffermydd y dyfodol ac y gall hyn wedyn fod yn dempled i eraill ei ddyblygu.

Bydd y cyllid yn talu am ymgynghorydd cymwys i roi ei amser i’r prosiect ar gyfer monitro ac arwain, cwch gwaith ag offer addas, offer tyfu arbenigol, amser staff a thanwydd i ymweld â’r ffermydd.

SDF/112020/6 – Trefdraeth: Datgarboneiddio trwy Fioamrywiaeth
Ysgogi’r gymuned i leihau carbon. Ymgysylltu ag o leiaf 80 o bobl wrth blannu coed a llwyni ar safleoedd addas a nodwyd; cynyddu cynefinoedd a chysylltedd bioamrywiaeth ar dir cyhoeddus a thir preifat (gan gynnwys 50 o erddi preifat, ar dir fferm a thir cyhoeddus); ac ennyn diddordeb preswylwyr mewn ‘gwyddoniaeth dinasyddion’ trwy recordio a rhannu o leiaf 3,000 o bwyntiau data lleol ar fioamrywiaeth. Bydd NAEG yn gweithio gyda Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth Partneriaeth Natur Sir Benfro, gan ddefnyddio’r Offeryn Cynllunio Defnydd Tir, i nodi safleoedd addas ar gyfer plannu.  Cyflwyno 2 ddigwyddiad ymwybyddiaeth / addysgu am fioamrywiaeth yn yr ysgol i gynyddu bioamrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn cael sticeri ffenestri ecogyfeillgar, yn cydnabod cymorth SDF APCAP.

Bydd y cyllid yn talu am Swyddog Bioamrywiaeth a Dad-garboneiddio hunangyflogedig rhan-amser (£10,920) i arwain y prosiect ac ymgysylltu â phobl leol yn ogystal â sefydliadau gan gynnwys Cyngor Trefdraeth, Fforwm Trefdraeth, Clwb Garddio Trefdraeth, Cyfeillion Trefdraeth a Nanhyfer, Grŵp Llwybrau Trefdraeth, Ysgol Bro Ingli a Chlwb Ieuenctid Trefdraeth. Byddant hefyd yn gwahodd swyddogion priodol y Parc Cenedlaethol a’r Awdurdod Lleol a chynrychiolwyr ieuenctid APCAP lleol a’r CFfI lleol, i ffurfio Grŵp Llywio Prosiect i oruchwylio gwaith y Swyddog Bioamrywiaeth a Dad-garboneiddio.

SDF/112020/7 – Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Sir Benfro (PEEP)
Cyllid refeniw (costau staff) i dalu am ymchwil 12 mis i ddichonoldeb PEEP – rhaglen effeithlonrwydd ynni ledled y sir – a rhedeg cynllun peilot i brofi canfyddiadau’r ymchwil gychwynnol cyn ehangu’r rhaglen ledled y sir.

 

Cofnodion a Gynhaliwyd