Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy 25/01/23

Dyddiad y Cyfarfod : 25/01/2023

10am, Rhith-Gyfarfod

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2.    Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3.    Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2022.

4.      Ystyried adroddiad y Rheolwr Cyllid Allanol ynglŷn â’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy 

5.    Ystyried adroddiad y Swyddog Cyswllt Cadwraeth Fferm ar y Prosiect Peilot Gwyrddu Amaethyddiaeth.

6.    Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

7.    Ystyried adroddiad y Swyddog Cyswllt Cadwraeth Fferm ar y ceisiadau a ganlyn:

  1. GA22/REEF – System Adfer Gwres a Phaneli Rheoli Digidol i Oeri tanciau Dŵr – Fferm Lower Broadmoor, Talbenni
  2. GA22/CAERFAI – Storio Batri 50kwh – Fferm Caer-fai, Tyddewi
  3. GA22/PENDDU – System Adfer Gwres pwmp gwactod, plât oeri banc dwbl – Penrallt Ddu, Pont-faen
  4. GA22/COURT – System Adfer Gwres, pwmp gwactod cyflymder amrywiol, 20kwh – Fferm Court, Castellmartin