Pwyllgor Rheoli Datblygu 27/01/21

Dyddiad y Cyfarfod : 27/01/2021

10am Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020.
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/20/0233/FUL – Cais rhannol ol-weithredol ar gyfer ty mas to deuol ar oleddf a llechi naturiol, waliau wedi’u rendro a drysau patio a ffenestr gron, a tho llechi naturiol – The Wigwam, Freshwater East, Penfro

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

b) NP/20/0291/FUL – Rheoleiddio’r defnydd presennol a wneir o Faes Parcio Comin Abereiddi fel maes parcio (sy’n gyfyngedig i 6 o lefydd parcio i’r anabl) ac ardal gollwng teithwyr a throi’n ol, a’r newid defnydd o ran o’r cae amaethyddol cyfeirod grid 179962 230984 i’w ddefnyddio fel maes parcio a safle caban gofalwr y maes parcio –  Abereiddi Beach Car Park, Llanrhian

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

c) NP/20/0407/FUL – Dymchwel y garej/gweithdy presennol, ac estyniadau eraill. Moderneiddio’r adeilad presennol ac adeiladu estyniad deulawr newydd i ffurfio newid defnydd i ddarparu llety i weithiwr allweddol (dosbarth C3) sy’n cynnwys 18 ystafell stiwdio hunangynhwysol. Mae’r cynnig yn darparu 9 lle parcio y tu blaen ac yng nghefn yr eiddo gydag un o’r llefydd ar gyfer yr anabl. Hefyd yng nghefn yr eiddo bydd 6 stand i feiciau – Coed-derw, St. Brides Hill, Saundersfoot

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

d) NP/20/0436/FUL –  Estyniad i gefn y ty a chodi portsh i ffrynt y ty presennol. Garej ddwbl newydd a hafdy – Rhydyfferm,Castle Morris, Hwlffordd

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

e) NP/20/0437/FUL – Cais cynllunio ol-weithredol ar gyfer drws yn y wal orllewinol a ffenestri yn y to – Apple Tree Gallery, The Ridgeway, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9JE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

f) NP/20/0507/PNA  –   Peneli polytwnnel a solar – tir ger Penrallt, Velindre, Crymych.

Argymhelliad y Swyddog: CANIATEIR CYMERADWYAETH YMLAEN LLAW

6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

Cofnodion a gynhaliwyd