Pwyllgor Rheoli Datblygu 21/04/21

Dyddiad y Cyfarfod : 21/04/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1.   Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 a 12 Ebrill 2021

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/19/0328/S73 – Amrywio amod rhif 2 o NP/14/0014 – Residential Development Plot adjoining D, Plots adjoining Devon Court, 5 , Freshwater East, Penfro, Sir Benfro

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

b) NP/20/0026/FUL – Datblygiad Un Blaned yn seiliedig ar arddwriaeth organig, cadw perllan, gwneud seidir, a chadw gwenyn. Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys adeiladu nifer o adeiladau newydd, gan gynnwys annedd un ystafell wely, ac ail-adeiladu ac estyniad i un adeilad presennol, a newidiadau i adeilad presennol arall – Land at Jason Road, Freshwater East

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

c) NP/21/0060/FUL – Annedd newydd yn lle’r hen un – Morwennau, Poppit, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3LP

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

d) NP/21/0137/FUL – Gwaredu’r strwythur pren, gosod bythynnod gwyliau, bwthyn croeso, strwythurau hyb cymunedol, parc bygis a chysgodfan ffotofoltaig a maes parcio i westeion, a gwaith seilwaith cysylltiedig gan gynnwys ffyrdd cylchol mewnol, tirweddu caled a meddal, seilwaith draenio, waliau cynnal a byndiau pridd. Mae hyn yn ffurfio prif ran y datblygiad ehangach y mae’r rhan arall ohono wedi’i leoli yn ardal Cyngor Sir Penfro – Bluestone National Park Resort, Canaston Wood, Arberth, Sir Benfro, SA67 8DE

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

e) NP/21/0172/TPO – Cwympo cypreswydden Monterey (Cupressus macrocarpa) i lefel y llawr, gan adael y bonyn yn ei le. (T12 ar TPO 33, a enwyd yn anghywir fel Ffynidwydden Douglas) – Beach Court, The Strand, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9EU

Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE

6.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau

 

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

Cofnodion a gynhaliwyd