Pwyllgor Rheoli Datblygu

Dyddiad y Cyfarfod : 10/06/2020

Rhith-Gyfarfod 10am

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:

a) 29 Ionawr 2020; a

b) 10 Chwefror 2020

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/19/0309/FUL – Datblygiad Un Blaned i gynnwys caban, sied, sgubor da byw, sgubor cynnyrch, toiled compost, ty gwydr, stondin wrth iet y fferm, a gwaredu’r clawdd i greu ardal parcio ceir – Lily Pond Farm, Whitewell Lane, Penalun, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7RY

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

b) NP/19/0361/OUT – Cais amlinellol gyda phob mater yn cael eu cadw’n ol ar gyfer 102 o unedau preswyl fforddiadwy, 8 o unedau preswyl rhanberchnogaeth a 34 o unedau preswyl marchnad agored ynghyd a mynedfa, gwaith draenio a thirweddu cysylltiedig – Land at Brynhir, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8TT

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

c) NP/19/0657/FUL – Uwchraddio’r cyfleusterau presennol yn y maes parcio a’r byrddau deunydd esboniadol, a rhoi cladin ar y toiledau a chanopi’r gysgodfan – Broad Haven PCNP Car Park, Aber Llydan, Hwlffordd, Sir Benfro

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

d) NP/19/0665/FUL – Newid defnydd yr Anecs Mam-gu Cyswllt i Lety Gwyliau – Red Houses, The Rhos, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4AN

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

e) NP/20/0222/FUL – Ceblau HVDC Parhaol – Dau gebl trydan HVDC parhaol, wedi’u gosod dan ddaear o’r safle glanio yn Freshwater West i’r ffin a CSP yn Fferm Neath dros ardal o rhyw 3.2km gan gynnwys baeau uniadau dan ddaear bob hyn a hyn ar hyd y llwybr ac un piler cyswllt uwc – Linear site extending from the intertidal sand flats at Freshwater West to Neath Farm, Rhoscrowther, Penfro, Sir Benfro

Argymhelliad y Swyddog: Ymweliad Safle

6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r canlynol.  Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol.

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol : yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau cymuned, Adrannau Cyngor Sir, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat : yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a fabwysiadwyd Medi 29, 2010.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015 – 2019 fabwysiadwyd 17 Rhagfyr 2014..

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sy am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840).

Lawrlwythwch y cofnodion