Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy 13/10/21

Dyddiad y Cyfarfod : 13/10/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Neb

2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Neb

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021.

6. Ystyried adroddiad ariannol y Swyddog Cyllido a Grantiau ynglŷn â’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy

7. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

8. Ystyried adroddiad y Swyddog Cyllid a Grantiau ar y ceisiadau a ganlyn:

SDF/102021/1 – Cymdeithas Gymunedol a Chwaraeon Arberth a’r Cylch

SDF/102021/2 – Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian

SDF/102021/3 – Pwyllgor Pentref yr Eglwys Lwyd

SDF/102021/4 – Awel Aman Tawe

SDF/102021/5 – Cydnerthu Cymunedol Ffynnone – Gogledd Ddwyrain Sir Benfro

Cofnodion a Gynhaliwyd