Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 14/07/21

Dyddiad y Cyfarfod : 14/07/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Neb

2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Neb

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

14/21 Datganiad Drafft o Gyfrifon 2020/21
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn y Datganiad Drafft o Gyfrifon 2020/21.

15/21 Diweddariad Adnoddau Dynol
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ebrill – Mehefin 2021 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

16/21 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mai 2021
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mai 2021

17/21 Grŵp Cynllun Gweithredu ar Ymgysylltu
Mae’r adroddiad yn crynhoi gwaith Grŵp Cynllun Gweithredu yr Awdurdod ar Ymgysylltu.

18/21 Adolygiad o Gydnerthedd – Cynllun Gweithredu APCAP ar y Cynigion ar gyfer Gwella
Mae’r adroddiad yn cyflwyno Cynllun Gweithredu mewnol yr Awdurdod mewn ymateb i’r Cynigion ar gyfer Gwella yn adroddiad Archwilio Cymru ar “Adolygiad o Gydnerthedd – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro”.

19/21 Adolygiad Dilynol Archwilio Mewnol 2020/21
Mae’r adolygiad dilynol gan TIAA, a hepgorwyd o’r papurau ar gyfer cyfarfod blaenorol y Pwyllgor, yn ceisio canfod beth yw hyd a lled y camau rheoli a gymerwyd mewn perthynas â’r argymhellion oedd wedi deillio o’r adolygiadau archwilio mewnol a gynhaliwyd yn 2019/20.

20/21 Ymholiadau Archwilio i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethu a Rheoli 2021
Mae adroddiad Archwilio Cymru “Ymholiadau archwilio i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a rheoli” yn gofyn pedwar cwestiwn mewn perthynas â llywodraethu’r Awdurdod, ac mae’r adroddiad yn cynnwys ymatebion yr Awdurdod i’r cwestiynau hynny.

21/21 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

7. Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar berfformiad y gyllideb yn y chwarter cyntaf.

8.   Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

Cofnodion a Gynhaliwyd