Pwyllgor Adolygu Gweithredol 29/06/22

Dyddiad y Cyfarfod : 29/06/2022

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Cynghorydd Dr SL Hancock

2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:        Neb

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022

6. Derbyn cyflwyniad ar y Bartneriaeth Ysgolion Awyr Agored.

7. Derbyn diweddariad ar gyflwyno’r rhwydwaith Gwefru Cerbydau Trydan.

8. Derbyn diweddariad ar y Rhybudd o Gynnig bod yr Awdurdod yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llandyfai, ac unrhyw un arall sydd â budd, naill ai i roi darn o dir yn Freshwater East fel rhodd, neu ei werthu ar gyfer darparu ardal chwarae i blant

9. Ystyried yr adroddiad canlynol:

05/22 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod yn diweddu ar yr 31 Mawrth 2022.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad am y flwyddyn ariannol gyfan – o fis Ebrill i fis Mawrth 20210/22, ac mae’n cynnwys data Chwarter 4 (Ionawr – Mawrth) ar gyfer y mwyafrif o’r setiau data.

10. Ystyried y blaenraglen waith ar gyfer y flwyddyn ddilynol