Pwyllgor Adolygu Gweithredol 23/09/20

Dyddiad y Cyfarfod : 23/09/2020

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2020

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

09/20 Adroddiad ar y Cynnydd o ran Trawsnewid Digidol yn y Tîm Rheoli Cefn Gwlad 

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd y mae’r Tîm Rheoli Cefn Gwlad wedi’i wneud o ran digideiddio ei lif gwaith, gan gynnwys arolygiadau, yn ogystal ag o ran cynllunio ac amserlennu gwaith, gan ddefnyddio’r Arc Online Software Platform ers mis Hydref 2018. Mae’n cynnwys enghreifftiau manwl ac amlinelliad o gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

10/20 Adroddiad Cadwraeth 2019-2020

Mae’r adroddiad yn nodi’r canlyniadau a  gyflawnwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwn drwy ei waith cadwraeth yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20.

11/20 Adroddiad Archaeoleg Blynyddol 2019 – 2020

Mae’r adroddiad yn amlinellu cyflwr presennol yr henebion cofrestredig yn y Parc Cenedlaethol, rhaglenni gwaith archaeoleg 2019 – 2020 ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer 2020 – 2021 a thu hwnt. Tynnir sylw hefyd at effaith sylweddol COVID-19.

12/20 Y Gofrestr Risg

Gofyn i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.

13/20 Adroddiad am Berfformiad am y Cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2020

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd at 31 Gorffennaf 2020 ar gyfer data misol ac ystadegau chwarter 1 (Ebrill – Mehefin) ar gyfer rhai setiau data.

5.     Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

 

Lawrlwythwch y cofnodion