Pwyllgor Adolygu Gweithredol 14 06 23

Dyddiad y Cyfarfod : 14/06/2023

10am, Rhith-Gyfarfod

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3.    Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2023

4.    Nodi’r  Log Gweithredu  o’r cyfarfod blaenorol

5.    Ystyried yr adroddiad canlynol:

04/23 Canllawiau Cynllunio Atodol a Monitro Ardaloedd Cadwraeth
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y canllawiau cynllunio atodol a gymeradwywyd yn ddiweddar ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth o fewn y Parc Cenedlaethol, a’r adolygiad diweddaraf o gyflwr pob ardal.

05/23 Adroddiad am Berfformiad am y Cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd at 31 Mawrth 2023 ar gyfer data misol ac ystadegau chwarter 1 – 4 (Ebrill – Mawrth) ar gyfer rhai setiau data.