Awdurdod y Parc Cenedlaethol 28/07/21

Dyddiad y Cyfarfod : 28/07/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a) 16 Mehefin 2021 – Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol , a’r

b) 16 Mehefin 2021 – Cyfarfod Cyffredin

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021, 16 Mehefin 2021 a’r 21 Mehefin 2021

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

28/21 ISA260 Adroddiad i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant
Gwneir cyflwyniad ar Adroddiad ISA260 Swyddfa Archwilio Cymru: Gohebiaeth Ynghylch Datganiadau Ariannol i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethiant.

29/21 Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant (Cynllun Gwella Rhan 2) 2020/21
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn y rhaglen waith a gynigiwyd yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau’r Awdurdod am y flwyddyn 2020/21

30/21 Cytuno ar Strategaeth Lefel Uchel ar gyfer yr Awdurdod.
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar yr ymgynghori, yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Strategaeth Lefel Uchel, ac yn rhoi gwybodaeth ar y camau nesaf yn y gwaith ar flaenoriaethau’r Awdurdod yn y dyfodol.

31/21 Cynlluniau Gweithredu i Ategu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r cynlluniau gweithredu ar Iechyd a Llesiant ac ar Hamdden Cynaliadwy a Rheoli Ymwelwyr i ategu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024

32/21 Cytuno i Gefnogi Ironman Cymru 2022-2026
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb ar gefnogi Ironman Cymru am y cyfnod 2022-2026

33/21 Aelodaeth Pwyllgorau
Mae’r adroddiad yn ceisio cadarnhad o aelodaeth Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu’r Awdurdod; Pwyllgor Cwynion, a Phwyllgor Apeliadau

34/21 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad

35/21 Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Adroddiad ar yr Effaith 2020/21
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ac adolygiad o berfformiad Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2020/21)

36/21 Adolygu’r Cynllun Cyfranogiad y Cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu
Mae’r adroddiad yn argymell newidiadau i’r ddogfen ganllaw ar Gyfranogiad y Cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

Cofnodion a Gynhaliwyd