Awdurdod y Parc Cenedlaethol 27/07/22

Dyddiad y Cyfarfod : 27/07/2022

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a) 15 Mehefin 2022 – Cyfarfod Blynyddol Cyffredino, a’r
b) 15 Mehefin 2022 – Cyfarfod Cyffredin

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 18 Mai 2022, 13 Mehefin 2022, 15 Mehefin 202222 Mehefin 2022 a’r 4 Gorffennaf 2022.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 11 Mai 2022

8. Penodi Aelod(au) i lenwi’r swyddi gwag ar y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu’r Gwasanaethau Corfforaethol, y Fforwm Gweithwyr a’r Pwyllgor Cymorth a Datblygu Aelodau.

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

22/22 ISA260 Adroddiad i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant
Gwneir cyflwyniad ar Adroddiad ISA260 Swyddfa Archwilio Cymru: Gohebiaeth Ynghylch Datganiadau Ariannol i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethiant.

23/22 Dyfarnu Cyllid mewn perthynas â’r rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r papur hwn yn rhoi manylion am y cyllid a ddyfarnwyd yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy 2022/25 i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a’i effaith ar wariant refeniw a chyfalaf yr Awdurdod.

24/22 Aelodaeth Pwyllgorau
Mae’r adroddiad yn ceisio cadarnhad o aelodaeth Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu’r Awdurdod, y Pwyllgor Cwynion, a’r Pwyllgor Apeliadau, ac yn ceisio penodi Aelod i Grŵp Datblygu’r Ystafell Werdd.

25/22 Polisi HAVS
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Polisi yr Awdurdod ar y Syndrom Dirgryniad Llaw a Braich (HAVS).