Awdurdod y Parc Cenedlaethol 26/07/2023
10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2.Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3.Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:
a) 21 Mehefin 2023 (Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol)
4.Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5.Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6.Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 7 Mehefin a 21 Mehefin 2023
7.Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Mai 2023
8.Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023
9.Ystyried yr adroddiadau canlynol:
23/23 Strategaeth Ddrafft ar gyfer Archwilio Mewnol 23/24-25/26
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r Strategaeth Ddrafft ar gyfer Archwilio Mewnol oddi wrth Archwilwyr Mewnol yr Awdurdod ASTARI.
24/23 Uwchgynllun Oriel y Parc
Rhannu dogfen derfynol Uwchgynllun Oriel y Parc gyda’r Aelodau a chytuno ar ffocws o’r newydd i’r safle fel canolfan ddarganfod wirioneddol ar gyfer y Parc Cenedlaethol ehangach.
25/23 Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft a’r Cynlluniau Cyflawni 2023/24 – 2026/27
Gofynnir i’r Aelodau gytuno ar y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft ac ar y Cynlluniau Cyflawni 2023/24 – 2026/27.
26/23 Bil Seilwaith (Cymru) Llywodraeth Cymru
Diweddaru’r Aelodau ar y gwaith o ddatblygu Bil Seilwaith (Cymru) Llywodraeth Cymru ac amlinellu’r pwyntiau allweddol y byddai’r Awdurdod yn dymuno eu gwneud i ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth hon sydd ar y gorwel.
27/23 Diweddariad ar y defnydd o dir ar Draeth Trefdraeth er mwyn atal yr arfer o barcio ar y traeth.
Diweddaru’r Aelodau yn dilyn prynu’r tir dan sylw ar 9/5/23.