Awdurdod y Parc Cenedlaethol 03/11/21

Dyddiad y Cyfarfod : 03/11/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Medi 2021 a 4 Hydref 2021

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Medi 2021

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

42/21 Cyfle i Blannu Coed – Dathlu Pen-blwydd Platinum – 70 Mlynedd ers Dynodi’r Parc Cenedlaethol
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r cynllun i blannu coed i ddathlu 70 mlynedd ers dynodi’r Parc Cenedlaethol.

43/21 Adroddiad ar Godi Arian Allanol
Mae’r adroddiad yn rhannu trosolwg gyda’r Aelodau o’r gweithgareddau codi arian yn erbyn Strategaeth Codi Arian APCAP 2018-2021 ac yn nodi strategaeth codi arian APCAP ar gyfer 2021-2024.

444/21 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Personél
Diben yr adroddiad hwn yw gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i’r Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor  Personél.

45/21 Polisi Gweithio Gartref
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol yr Aelodau i fabwysiadu’r Polisi Gweithio Gartref.

46/21 Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar y lefel o gyflogau Aelodau a gynigir ar gyfer 2022/23, ac yn gofyn am eu barn ar hynny.

47/21 Adnewyddu Yswiriant 2022/23
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo ymestyn trefniant yswiriant cyfredol yr Awdurdod ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2022/23 a 20123/24.

Cofnodion a Gynhaliwyd