Pwyllgor Adnoddau Dynol 23/11/22

Dyddiad y Cyfarfod : 23/11/2022

12.30pm, Ystafell Darganfod, Oriel y Parc, Tŷ Ddewi, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datgeliadau buddiant gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 29 Mehefin 2022 
b) 27 Gorffennaf 2022

4. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd y Panel Recriwtio ar gyfer Cyfarwyddwr a gynhaliwyd ar:
a)    27 Gorffennaf 2022; a’r
b)  8 Awst 2022

5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod Fforwm y Gweithwyr a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022

6. Derbyn y Metrigau Adnoddau Dynol am fis Hydref 2022.

7. Ystyried diweddariad ar yr Adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd (Adroddiad 05/22)

8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraffau 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

9. Derbyn diweddariad ar Ailstrwythuro’r Sefydliad a chytuno ar newidiadau yn dilyn ymgynghori’n barhaus â’r staff, gan gynnwys canlyniad yr Adolygiad o’r Gwasanaethau Gweinyddol (Adroddiad 06/22).