Pwyllgor Rheoli Datblygu 7/12/22

Dyddiad y Cyfarfod : 07/12/2022

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:

a)  19 Hydref 2022;
b)  16 Tachwedd 2022

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/22/0148/FUL – Dymchwel y byngalo presennol ac adeiladu annedd newydd – Braeside, Freshwater East, Sir Benfro, SA71 5LF

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

b) NP/22/0176/FUL – Cais an 3 twnel polythen, mynedfa newydd, llwybr ac arwyneb solet, pyllau dwr, ac annedd o dan y polisi Datblygiad Un Planed – Land to the north of Castell Cadw known as Parc Calch, Felindre, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XA

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

c) NP/22/0240/FUL– Dymchwel yr adeiladau fferm modern, a’u disodli gan annedd newydd gan gynnwys yn rhannol addasu’r ysguboriau hanesyddol presennol, tirweddu, arae o baneli solar, clwydfan nos ystlumod a gwaith cysylltiedig – Lower Ripperston Farm, St. Brides, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3AH

Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE

d) NP/22/0388/FUL – Adeiladu annedd newydd yn lle’r annedd presennol – Kenmore, Pen y Craig, The Glen, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9NR

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

e) NP/22/0424/FUL – Dymchwel yr annedd preswyl presennol ac adeiladu tŷ a garej newydd – Ringstone, Broad Haven, Hwlfordd, Sir Benfro, SA62 3JP

Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE

f) NP/22/0462/FUL – Dymchwel yr annedd presennol a’i ddisodli gan annedd newydd – Tar House, Knapp Farm Lane, Llangwm, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4HN

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

g) NP/22/0464/FUL – Creu lle parcio a lle troi’n ol pwrpasol oddi ar y stryd a gwaith tirweddu i liniaru’r effaith – 131, Castle Way, Dale, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3RN

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

h) NP/22/0482/FUL– Ailfodelu’r wal ffrynt a newid y to gwastad presennol i ffurfio to teras Goscar House, Crackwell Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BY

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

i) NP/22/0483/FUL – Ailfodelu’r wal ffrynt a newid y to gwastad presennol i ffurfio to teras Sea House, Crackwell Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BY

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

j) NP/22/0513/FUL – Dymchwel yr adeilad toiledau/cawodau/storfa/golchdy presennol, a gwaredu’r cyfleuster i garafanau teithiol ar gyfer derbynfa i safle arall y tu allan i’r parth llifogydd ac ehangu’r lle, adeiladu toiledau/cawodau/storfa/golchdy newydd, derbynfa/swyddfa ac ystafell gyfarfod, creu 12 o lefydd i godi pebyll ar laswellt (ol-weithredol), codi polyn i ddal teledu cylch cyfyng, addasu’r hen adeilad toiledau yn gaffi/parlwr hufen-ia, ac estyniad bach i greu toiled cyhoeddus, a gwaith cysylltiedig – Newgale Camping Site, Niwgwl, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6AS

Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE

6.       TYstyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.

 

Dilynwch y llif byw o'r cyfarfod