Pwyllgor Rheoli Datblygu 22/06/22

Dyddiad y Cyfarfod : 22/06/2022

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a)    18 Mai 2022; a
b)  13 Mehefin 2022

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/21/0399/FUL – Adeiladu sgubor ôl-weithredol ar gyfer da byw a gwaith ar gladdfa silwair i gynorthwyo’r fferm allu gweithredu fel fferm waith – Land opposite Middle Broadmoor, Talbenny, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3XD
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

b) NP/21/0614/FUL – Rhannu’r llain bresennol yn ddau i adeiladu ty newydd 1 a ½ llawr 4 ystafell wely, a gwaith allanol cysylltiedig a rhannu mynedfa i gerbydau – Oratava, Maenorbyr SA70 7TE
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

c) NP/21/0743/FUL – Datblygiad preswyl o 15 o dai a gwaith cysylltiedig – Land adjacent to the Primary School, Trewarren Road, St. Ishmael’s, Sir Benfro, SA62 3SZ
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

d) NP/22/0165/FUL – Adeiladu annedd i ddisodli’r annedd presennol – Pencastell, St Dogmaels SA43 3LZ
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

6. Ystyried adroddiadau’r Pennaeth Rheoli Datblygu ar faterion yn ymwneud a gorfodi
EC21/0170 – Overhaven House, Blockett Lane, Aber Bach

7. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

Agenda Atodol

Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.
b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk