Pwyllgor Rheoli Datblygu 19/10/22

Dyddiad y Cyfarfod : 19/10/2022

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.      Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.    Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2022

4.  Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio

5.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol: –

a) NP/21/0773/OUT – Codi Pedwar annedd – Fferm cyn-dwrci, tir ger Blockett Lane, Little Haven, Hwlffordd, SA62 3UH

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

b) NP/22/0148/FUL – Dymchwel y byngalo presennol ac adeiladu annedd newydd – Braeside, Freshwater East, Sir Benfro, SA71 5LF

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

c) NP/22/0357/FUL – Gofod ty haf ol-weithredol yn Grey Winds a ddefnyddir fel rhan o fwynhad y ty a’r ardd bywyd gwyllt lle mae coed brodorol ac ymlusgiaid yn arbennig yn ffynnu yn dilyn ailwylltio. Mae’r gofod yn lle i weithio a gorffwys yn yr ardd sydd ar lefel uwch na’r ty – Grey Winds, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0QG

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

d) NP/22/0388/FUL – Adeiladu annedd newydd yn lle’r annedd presennol – Kenmore, Pen y Craig, The Glen, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9NR

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

e) NP/22/0424/FUL – Dymchwel yr annedd preswyl presennol ac adeiladu tŷ a garej newydd – Ringstone, Broad Haven, Hwlfordd, Sir Benfro, SA62 3JP

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

6.      Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost:  dc@pembrokeshirecoast.org.uk.